Awydd darllen mwy o lyfrau Cymraeg ond ddim yn siŵr lle i ddechrau? Ymunwch â Her yr Hydref!
Mae Her yr Hydref yn eich annog i ddarllen un llyfr o gyfres Stori Sydyn bob wythnos yn ystod mis Hydref.
Mae’r gyfres arbennig hon o lyfrau gan awduron poblogaidd yn cynnig cyfle gwych i bori mewn llyfr. Gyda’r llyfrau yn ddim ond £1 yr un, ac yn rhyw 100 o dudalennau o hyd, maen nhw’n berffaith ar gyfer taith trên i’r gwaith, darllen dros amser cinio neu ddeg munud gyda phaned.
Mae Gwledd gan Lowri Haf Cooke yn dathlu 10 cwmni bwyd a diod o Gymru.
Dyma straeon rhai o arwyr ac arwresau’r byd bwyd a diod yng Nghymru heddiw. Dewch i gael eich ysbrydoli gan fusnesau sydd wedi ennyn parch ledled Cymru a thu hwnt, ac sydd wedi cipio gwobrau cenedlaethol.
Mae gwledd yn eich disgwyl, wrth i chi ddysgu am yr emosiwn, y gwaith caled a’r dyfalbarhad sydd wedi dod a llwyddiant i’r cynhyrchwyr arloesol, angerddol ac arbennig yma.