Mae’r gyfres arbennig hon o lyfrau gan awduron poblogaidd yn cynnig cyfle gwych i bori mewn llyfr. Gyda’r llyfrau yn ddim ond £1 yr un, ac yn rhyw 100 o dudalennau o hyd, maen nhw’n berffaith ar gyfer taith trên i’r gwaith, darllen dros amser cinio neu ddeg munud gyda phaned.
Nofel drosedd yn llawn hiwmor tywyll yw Tywyllwch y Fflamau gan Alun Davies
Mae sawl blwyddyn wedi pasio ers i’r llun gwerthfawr, Tywyllwch y Fflamau, gyda’i hanes sinistr gael ei ddwyn a’i berchennog wedi ei ladd yn ystod y lladrad.
Hwn yw’r unig achos i Ditectif Bedwyr Campbell fethu datrys. Ond nawr mae ganddo gyfle i fynd ar drywydd y llofrudd unwaith eto, a cheisio dod o hyd i’r gwir am yr hyn ddigwyddodd ddeg mlynedd ynghynt.
Darllenwch y bennod gyntaf AM DDIM yma!
Ar gael o’ch siop lyfrau leol, nawr.
Ar gael o’ch siop lyfrau leol, nawr.