Cartref digidol diwylliant Cymru.

Chwarae’r Chwedlau: Cabaret

No Categories Found

🪩 Mae Chwarae’r Chwedlau: Cabaret nôl am bennod olaf o 2024!

❤️ Os methwch chi’n Eisteddfod eleni, paid a phoeni: rydym yn dod a rhai o’r acts o raglen LHDTC+ y prifwyl, Mas ar y Maes, i The Queer Emporium!

🎵 Mae’r cast yn cynnwys Caitlin McKee, Tom Kemp, Betsan and Welsh Ballroom Community!

🎟️ Plîs prynwch docynnau pryd medrwch oherwydd mae gwerthu tocynnau i nosweithiau cwiar, Cymraeg medru bod yn galed, a hefyd mae’n helpu lleddfu’r gor-bryder!

Gwybodaeth Pellach

Bydd alcohol yn cael ei gweini yn y digwyddiad yma. Bydd seddi ar gael drwy’r holl ddigwyddiad. Disgwylir i’r digwyddiad cynnwys synau uchel a goleuadau llachar.

Gwybodaeth Hygyrchedd

Mae ein digwyddiadau yn cymryd lle yn yr Arcêd Frenhinol, Morgan Quarter. Medrwch fynychu’r arcêd trwy blaen ein siop, sydd yn cynnwys un step, neu trwy’r mynediad arall, sydd heb unrhyw gamau na grisiau (os ydych chi eisiau defnyddio’r un olaf, gad i ni wybod ymlaen llaw oherwydd weithiau mae’r gât yn cloi). Mae yna hefyd tŷ bach anabl yn y siop.

Mae’r Queer Emporium wedi ei lleoli ar hanner deheuol Heol Eglwys Fair. Cyferbyn y mynediad, mae yna safle tacsis ac mae’n bosib i Ubers casglu chi o fynna neu, os mae’r heol ar gael, o’r Gwesty Marriott, sydd 0.4 milltir i ffwrdd. Yma, mae nifer o fysiau yn gorffen ac yn dechrau eu teithiau. Mae yna barcio ar gael yn St. David’s Hall 2 a Maes Parcio John Lewis, sydd oddeutu 0.2 milltir o’r siop.

Talu Ymlaen

Os nad ydych yn gallu fforddio tocyn am y digwyddiad, medrwch dderbyn mynediad am ddim trwy ein cynllun Talu Ymlaen. Nid oes angen cynnig tystiolaeth i brofi bod chi ei hangen, dim ond gyrru neges i ni trwy ebost.

RHANNWCH