Yn TAPE rydym yn angerddol am greadigwydd ac yn credu y gall ysbrydoli a thrawsnewid cymunedau. Rydym yn cynnig ystod eang o gyfleoedd creadigol i grwpiau ac unigolion mewn amgylcheddau cynhwysol, diogel a chefnogol. Elusen yw TAPE sy’n agored i bawb. Mae ein tîm a chyfleusterau yn cefnogi profiadau a chyfleoedd ymarferol mewn meysydd fel ffilmio, cynhyrchu sain, cerddoriaeth, ffotograffiaeth, VR, dylunio, ysgrifennu creadigol, podledu a llawer mwy.
Mae darpariaeth TAPE yn cefnogi unigolion a grwpiau, gan weithio gyda phobl o bob oed a lefel profiad, gan sicrhau eu bod yn cymryd rhan ganolog yn y broses greadigol. O unigolion creadigol tro cyntaf i raddedigion a gweithwyr profesiynol gall yr elusen gynnig hyfforddiant, cefnogaeth a chyfleoedd.