Cartref digidol diwylliant Cymru.

CelfCymuned

Below the Waves fydd 3edd ffilm nodwedd TAPE, ond ein ffilm gyntaf i gael ei hanimeiddio! 

Mae TAPE ar hyn o bryd yn y ‘cyfnod cyn-gynhyrchu ac Ymchwil a Datblygu’ ar gyfer Below the Waves. Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gwneud llawer o arbrofi. Byddwn yn cynnal arddangosfa deithiol Below the Waves yn gynnar yn 2025. Bydd yr arddangosfa yn teithio i wahanol lefydd yng Ngogledd Cymru. Bydd yn dangos yr holl waith creadigol gwahanol sydd wedi mynd i Below the Waves hyd yn hyn.

Mae TAPE wedi bod yn cynnal amrywiaeth o brosiectau dros y flwyddyn ddiwethaf yn gysylltiedig â Below the Waves. Gan gynnwys ysgrifennu sgriptiau, celf a chrefft, animeiddio prawf, ffotograffiaeth, dylunio sain, cerddoriaeth a llawer mwy. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda sefydliadau ac ysgolion lleol.  Mae TAPE yn gweithio’n greadigol. Mae hyn yn golygu ein bod yn gweithio gyda’n gilydd i wneud yn siŵr bod pawb yn teimlo eu bod yn cael eu cynnwys a’u bod yn cael cyfle i gymryd rhan. Nid yw hyn i’w gael yn aml yn y diwydiant ffilm.

Mae TAPE yn cydweithio â phobl o wahanol gymunedau i ddod â’r stori hon yn fyw. Nod y prosiect, a ariannu am 18 mis, yw datblygu dulliau newydd o defnyddio yr celfyddydau a llesiant a mesur yr effaith  a’r gwerth cymdeithasol i sefydliadau, unigolion a chymunedau. Erbyn mis Mawrth bydd dros 208 o sesiynau gweithdy a 400 awr o gyflenwi. Cadwch lygad am y diweddaraf am y gweithdai a’r digwyddiadau rydym wedi bod yn gweithio arnynt eleni!

RHANNWCH