Yn y bennod hon trafodwn gamp ryfeddol William Morgan, Beibl Cymraeg 1588. Bid a fo am ei harwyddocâd crefyddol amlwg, canolbwyntiwn ar arwyddocâd y garreg filltir hon o safbwynt hanes yr iaith Gymraeg a’i llenyddiaeth.
Un o’r pethau sy’n gwneud y Gymraeg yn iaith mor anhygoel o gyfoethog yw’r amrywiaeth o gyweiriau sydd ar gael i awduron, a Bebil 1588 yn anad dim a sicrhaodd fod ganddi gywair llenyddol aruchel arhosol. Mae’r undod ieithyddol hwn wedi profi’n hynod bwysig o safbwynt hunaniaeth Gymreig hefyd. Cawn gyfle hefyd i nodi ymateb rhai Cymry cyfoes, gan gynnwys cywydd mawl gan y bardd Rhys Cain sy’n tynnu sylw mewn modd cofiadwy at gamp ieithyddol William Morgan.