Cartref digidol diwylliant Cymru.

You’ve Got Dragons/Mae Gen Ti Ddreigiau

“Mae dreigiau’n dod yn union pan nad wyt ti’n eu disgwyl. Rwyt ti’n troi rownd, a dyna nhw.”

Mae llawer o bobl yn eu cael: breuddwydion cas, bola’n chwyrlio, teimlo’n bigog. A weithiau maen nhw’n gwneud iti deimlo’n unig. Beth all plentyn sy’n cael pwl cas o ddreigiau ei wneud felly?

Chwedl hyfryd am daith plentyn at ddygymod â’i ddreigiau, a adroddir yn null unigryw Taking Flight. Mae’r cynhyrchiad sensitif, gweledol wych hwn, gyda’i fiwsig byw gwreiddiol, yn archwilio mewn modd doniol a gwefreiddiol y dreigiau a wynebwn ni i gyd.

Yn cynnwys capsiynau creadigol, BSL a disgrifiadau sain wedi’u cydblethu; mae You’ve Got Dragons yn brofiad braf i’r teulu i gyd. A chofiwch… “Nid oes draig yn y byd sy’n fwy grymus na TI!”

Based on the book written by Kathryn Cave & illustrated by Nick Maland
Addasiad Gan Manon Steffan Ros
Cydgynhyrchiad Cwmni Theatr Taking Flight/Pontio

Cyfarwyddwraig: Elise Davison

Dylunio Setiau a Gwisgoedd: Ruth Stringer

Dylunio Goleuadau: Garrin Clarke

Cyfansoddwr a Dylunio Sain: Dan Lawrence

Mehefin 22, 25-27: Pontio, Bangor

Gorffennaf 2-5: Blaengarw Workmen’s Hall
Gorffennaf 9-13: Ffwrnes, Llanelli
Gorffennaf 16-20: Chapter, Caerdydd
Gorffennaf 24-27: Riverfront, Casnewydd
Awst 7: Eisteddfod Genedlaethol


Athrawon: Lawrlwythwch y Pecyn Addysg Yma

RHANNWCH