Yn y bennod hon, dechreuwn hoelio sylw ar bwnc sydd o’r pwys mwyaf i hanes yr Hen Iaith a’i llenyddiaeth – cyhoeddi’r Beibl yn Gymraeg. Dechreuwn y tro hwn gyda’r Testament Newydd a gyhoeddwyd yn 1567, gan egluro bod rhaid deall y cyd-destun gwleidyddol yn ogystal â’r cyd-destun crefyddol er mwyn deall y garreg filltir hon o ddatblygiad.
Er bod rhai’n hoffi gweld y Beibl Cymraeg fel ‘iawndal’ Elizabeth I am yr hyn a wnaeth ei thad, Harri VIII, i’r Gymraeg gyda’r ‘Deddfau Uno’, dadleuwn i’r gwrthwyneb ac awgrymu bod y ddau ddatblygiad yn deillio o’r un cymhelliad gwleidyddol i ganol grym a sicrhau unffurfiaeth trwy’r deyrnas. Mae’n ddiddorol nodi felly mai unffurfiaeth wleidyddol a chrefyddol a nid unffurfiaeth ieithyddol a oedd yn bwysig i Elizabeth.
Trafodwn gyfraniad yr Esgob Richard Davies a chodi pwnc a gaiff sylw yn y bennod nesaf hefyd – y ffug-hanesyddiaeth a alwodd Saunders Lewis yn ‘bropaganda’r Eglwys Brotestannaidd’.