Cartref digidol diwylliant Cymru.

Grangetown – Rhiannon Mair

Cymuned


1. Beth yw dy brosiect llais y lle? 

Yn byw yn Grangetown, roedd gen i ddiddordeb yn cynyddu ymwybyddiaeth o’r iaith Gymraeg yno ac yn Trebiwt. Roeddwn eisiau ymgysylltu gyda’r gymuned i ddeall os oedd rhwystra i ddysgu Cymraeg a gwybod faint o bobl oedd yn gallu siarad yr iaith – i ba bynnag lefel 

2. Beth oedd yr uchafbwyntiau? / What were the highlights? 

Roeddwn yn ffodus iawn i weithio ar elfennau o’r prosiect yma gyda Vivian Rhule, ac un o’r uchafbwyntiau oedd mynychu carnifal Trebiwt Haf blwyddyn ddiwethaf.

Yno, fe fuodd Vivian a minnau yn sgwrsio gyda’r gymuned am eu dealltwriaeth o’r Gymraeg gan ddarparu eitemau synhwyraidd i hyrwyddo’r iaith. 

3. Beth oedd y canlyniadau? 

Ar ddechrau’r carnifal, byddai pobl yn sicr nad oeddent yn gallu siarad Cymraeg, ond wedi rhywfaint o berswâd, roeddent yn synnu eu bod yn gallu deall a siarad yr iaith. Roedd y sgyrsiau yn bositif, rhai yn emosiynol. 

Roeddem yn awyddus i hyrwyddo bod deall ambell air o Gymraeg dal i olygu bod yr iaith yn perthyn iddyn nhw. Sbardunwyd ambell un i feddwl am yr iaith am y tro cyntaf ac roedd hynny’n werthfawr. 

RHANNWCH