Tri darn newydd o gerddoriaeth glasurol feiddgar a fydd yn mynd â chi ar daith, wedi’u hysbrydoli gan fywyd cyfoes yng Nghymru ac yn ymdateb iddo.
Bydd UPROAR hefyd yn perfformio cerddoriaeth gan gyfansoddwyr rhyngwladol adnabyddus.
Mae trac sain deinamig Olga Neuwirth yn ategu ffilm haniaethol chwareus Viking Eggeling yn ei darn ‘Symphonie Diagonale’. Ac yn ‘Son of Chamber Symphony’ gan John Adams, cyfansoddwr byw mwyaf poblogaidd y byd, disgrifiwyd y symudiad olaf yn y Los Angeles Times fel ‘..one of those Adams bucking-bronco blastoffs, riveting and full of surprises.”