Pennod 35 (cyfres 2, pennod 2)
Roedd y bennod ddiwethaf yn amlinellu’r newidiadau mawr a ddaeth yn ystod oes y Tuduriaid. Mae’r bennod hon yn ystyried effaith rhai o’r newidiadau hyn ar y traddodiad barddol Cymraeg. Ond er gwaethaf yr holl drawsffurfiadau, gwelwn wrth graffu ar ychydig o ganu mawl o ddechrau’r cyfnod fod nifer o agweddau hynafol ar y traddodiad yn parhau wrth i’r traddodiad hwnnw esblygu ac amsugno elfennau newydd.
Yn sicr, cyfuniad o’r hen a’r newydd yw’r hyn sy’n gwneud y cyfnod hwn yn hanes llenyddiaeth Gymraeg mor ddiddorol. Er bod pob rhan o Gymru wedi’i hail-lunio ar ffurf siroedd Seisnig yn ystod teyrnasiad Harri VIII, nodwn fod y gyfundrefn farddol Gymraeg yn parhau i feddwl am ddaearyddiaeth y wlad mewn dull Cymreig hynafol. Ac er gwaethaf awgrym rhai haneswyr Protestannaidd a awgrymai fod mynachdai Cymru’n sefydliadau pydredig erbyn iddynt gael eu diddymu gan Harri VIII, gwelwn fod rhai ohonynt wedi parhau’n ganolfannau diwylliannol a chrefyddol bywiog hyd at y diwedd.