Cartref digidol diwylliant Cymru.

Trafod iechyd meddwl

No Categories Found

Dyma grynodeb o’r podlediadau Cymraeg sy’n ymwneud a iechyd meddwl.

Gwrandwch ar sgyrsiau onest ac agored wrth i eraill rhannu eu profiadau am brofiadau iechyd meddwl a lles.

Mae gwefan meddwl.org yn lle i gael cefnogaeth, gwybodaeth a phrofiadau iechyd meddwl – i gyd drwy gyfrwng y Gymraeg.

Dewr

Cyfres o sgyrsiau am ‘ups and downs’ bywyd – a sut mae’r celfyddydau a chreadigrwydd yn gallu helpu drwy gyfnodau heriol a hapus.

Podlediad Dewr

Dewr – Cyfres 2

Yn 2020 fe gychwynnodd Tara Bethan ar daith i ddysgu am sut mae’r creadigrwydd yn gwneud gwahaniaeth i fywydau mewn cyfnodau heriol a hapus.

Yn ei chartref newydd ar BBC Sounds mae’r sgyrsiau yn parhau, a chawn gyfarfod mwy o wynebau cyfarwydd Cymru i glywed am y pethau sy’n eu cynnal nhw.

Ar hyd y ffordd cawn glywed am brofiadau yn ymwneud ag iechyd meddwl a lles yn cael eu trafod mewn ffordd agored a gonest.

Mae’r podlediad yma’n cynnwys iaith gref.

Dewr – Cyfres 2


Podlediad Digon

Digon yw digon, wrth i Non Parry ddweud ei bod hi’n amser am sgwrs onest am iechyd meddwl.

Podlediad Digon


Malu Cachu, Chwalu Stigma

Podlediad Cymraeg sy’n trafod teimlada’ a rhannu profiada’ am iechyd meddwl.

Mae Glesni a Siân yn dwy ferch o Fôn sy’n eu deuddega’, yn ffrindia gora’ ers blynyddoedd maith, ag efo diddordeb mewn iechyd meddwl, sydd rwan isio rhannu hynny efo chi! Bwriad y podlediad yw i chwalu y stigma o gwmpas iechyd meddwl trwy normaleiddio cael sgyrsia’ agored amdano.

Y gobeithio yw i ysbrydoli eraill i gwneud run peth a creu cymuned lle gallwch teimlo’n berthyn a uniaethu efo eraill.

Am fwy o wybodaeth, dilynwch Malu Cachu, Chwalu Stigma ar Facebook ag Instagram.

Malu Cachu, Chwalu Stigma

Tu ôl i’r Wên

Podlediad newydd gan meddwl.org ac Academi Berfformio Caerdydd sy’n rhoi cyfle i bobl ifanc drafod eu profiadau personol o salwch meddwl a phrofiadau anodd eraill.

Mae chwe phennod yn y gyfres, pob un yn canolbwyntio ar elfen wahanol; o alar i anhwylderau bwyta, o orbryder i iselder, rhywioldeb a rhywedd, bwlio a mwy.

Tu ôl i’r Wên

Pen yn y Gêm

Podlediad Cymraeg am Feddylfryd ac Iechyd Meddwl o fewn Chwaraeon.

Pen yn y Gêm

RHANNWCH