Cartref digidol diwylliant Cymru.

December Network Meeting

No Categories Found

Ymunwch â ni mewn cyfarfod rhwydwaith ymarferol dathliadol i gysylltu a myfyrio ar y flwyddyn a fu.

Yr artistiaid gwadd fydd Hyrwyddwyr Creadigrwydd llwyddiannus Cymru ar brosiect 64 Miliwn o Artistiaid – Her Mis Ionawr. Gallwch gymryd rhan mewn dau weithdy 25 munud, y byddwch chi’n eu dewis wrth gyrraedd. Dewch ag offer sylfaenol gyda chi – pin, pensil, papur.

14/12

10:00 – 11:30

Cofrestrwch yma

Mae Ffion Pritchard yn unigolyn creadigol gydag ystod eang o brofiad yn y sector celf, dylunio, adloniant a’r cyfryngau. Mae gan Ffion ddiddordeb yn y ffordd y gall celf fod o fudd i gymdeithas, boed hynny trwy gelf gymunedol, celf mewn gofal iechyd neu trwy bŵer cathartig adrodd straeon, hiwmor ac adloniant.

Swyddog Llesiant yn Golygfa Gwydyr, Llanrwst, Dyffryn Conwy yw Sian. Mae gan Golygfa Gwydyr safle yng Nghoedwig Gwydir lle’r ydyn ni’n cynnal sesiynau llesiant, o fforio a gwehyddu basgedi i ‘bio blitz’. Yn ddiweddar maen nhw wedi dechrau sesiynau celf ac yn awyddus i ddatblygu’r celfyddydau creadigol yn eu gwaith, gan wybod am y buddiannau o ran llesiant. Ar hyn o bryd maen nhw’n gweithio gyda chyn-filwyr, Cartrefi Conwy a’r gymuned leol.

Mae Claire a Sally yn rhedeg Create Caerphilly Skills and Wellbeing CIC. Maen nhw’n hwyluso dosbarthiadau celf a chrefft i bob oed ac yn defnyddio cyfryngau amrywiol o fewn y dosbarthiadau hyn. Gan weithio’n bennaf yng Nghaerffili a’r cyffiniau, gyda grwpiau cymunedol, elusennau a sefydliadau cymorth, mae Clair a Sally’n hyrwyddo llesiant drwy fod yn greadigol. Eu gwefan yw www.createcaerphilly.co.uk ac maen nhw ar facebook ac instagram.

RHANNWCH