Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pencerdd

Llenyddiaeth

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cynnig cyfle i bum bardd ddatblygu eu sgiliau fel cynganeddwyr trwy ein rhaglen newydd sbon, Pencerdd, a gynigir mewn partneriaeth gyda Chymdeithas Barddas.

Dysgwch fwy am yr alwad a’r broses ymgeisio yma!

Dyddiad cau: 1:00pm, Dydd Mercher 3 Ionawr 2024.

Nod y cynllun hwn yw rhoi hwb i Benceirddiaid y dyfodol. Trwy gymysgedd o gefnogaeth unigol a gweithdai dwys, y gobaith yw y bydd hyder y beirdd yn y grefft o gynganeddu yn cynyddu, ac y byddant yn meithrin eu mynegiant personol eu hunain o fewn iaith Cerdd Dafod.

Bydd ein beirdd yn mynd ymlaen i eirioli dros y grefft arbennig hon, gan blannu hadau cynghanedd ymysg grwpiau a chymdeithasau eraill. Gobeithiwn, felly, y bydd cynllun Pencerdd yn meithrin lleisiau a safbwyntiau newydd yng nghrefft y gynghanedd yng Nghymru.

Mae’r rhaglen blwyddyn o hyd yn rhad ac am ddim, a bydd yn rhedeg rhwng Mawrth 2024 a Mawrth 2025.

Fel man cychwyn i’ch ysbrydoli, dyma gyfres o wyth o wersi cynganeddu rhad ac am ddim i ddechreuwyr gan Aneirin Karadog.

RHANNWCH