Ar gyfer pwy mae hwn?
Mae’r hyfforddiant yn berthnasol i unrhyw sefydliad celfyddydol sy’n cyflogi artistiaid llawrydd a/neu sydd â’u tîm eu hunain ar gyfer cyflwyno prosiectau celf cyfranogol. Yn benodol, anelir yr hyfforddiant at sefydliadau sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd, iechyd meddwl a llesiant. Anelir y cwrs at staff uwch mewn sefydliadau celfyddydol ac ymddiriedolwyr sy’n cefnogi llesiant strategol mewn sefydliad.
Bydd yr hyfforddiant yn eich helpu i wneud y canlynol:
Gwerthuso’r hyn rydych chi’n ei gynnig ar hyn o bryd a gwybod am gymorth llesiant ar gyfer eich timau cyflenwi.
Edrych ar sut mae diwylliant, strwythurau ac ymarfer y sefydliad yn effeithio ar lesiant ymarferwyr.
Dysgu beth yw arfer gorau mewn sefydliadau celfyddydol eraill.
Datblygu cynllun gweithredu i ddechrau eich taith at gyfoethogi eich cynnig cymorth llesiant.
Cynhelir yr hyfforddiant dros ddau hanner diwrnod ar Zoom. Mae angen i’r cyfranogwyr fod yn bresennol ar y ddau ddiwrnod.
Bydd gofyn hefyd i chi gwblhau ffurflen wybodaeth pan fyddwch yn cofrestru er mwyn ein helpu i deilwra’r cwrs i chi, yn ogystal â ffurflen werthuso ddilynol er mwyn i ni allu mesur effaith yr hyfforddiant.
Diwrnod 1:
Deall eich gwerthoedd sefydliadol a sut mae llesiant a gofal am ymarferwyr yn cyd- fynd a hynny.
Gweithredu ymarferol ar gyfer datblygu cynllun cymorth llesiant, gan gynnwys contractio, cyfathrebu, mynediad, cynefino.
Diwrnod 2:
Cymorth affeithiol – deall y gwahanol fathau o gymorth y gallech eu cynnig i’ch timau cyflenwi gan gynnwys adnoddau ac offer creadigol syml.
Enghreifftiau o arfer gorau i’ch ysbrydoli a’ch arwain.
Creu eich Cynllun Gweithredu eich hun ar gyfer y camau nesaf.
Mentora:
Gall sefydliadau wneud cais am sesiynau dysgu dilynol gan gymheiriaid gyda Justine ar ôl y cwrs os oes angen amser a chymorth ychwanegol i roi eich syniadau ar waith. Caiff gwybodaeth am hyn ei rhannu ar y cwrs.
Hyfforddwr:
Eich hyfforddwr fydd Justine Wheatley.
Mae Justine yn ymgynghorydd a hyfforddwr llawrydd. Mae’n weithiwr proffesiynol yn y celfyddydau ers dros 20 mlynedd. Bu’n Gyfarwyddwr Gweithredol y sefydliad celfyddydol gwledig Peak Cymru tan 2023 ac mae ganddi gyfoeth o brofiad ymarferol yn cefnogi timau cyflwyno’n greadigol mewn cyd-destunau celfyddydau ac iechyd.