Cartref digidol diwylliant Cymru.

Y dyn sy’n denu HANNER MILIWN i’w wylio yn chwarae gemau

Llenyddiaeth

Portread o Gav Murphy
gan Iolo Jones

Mae Cymro yn denu miloedd ar filoedd i’w wylio yn chwarae gemau cyfrifiadurol ar y We, ac mae’r fenter – RKG – yn gwneud dros £20,000 y mis drwy danysgrifwyr.
Yn ffigwr hynod adnabyddus ar y sin gemau cyfrifiadur, ers dwy flynedd bellach mae Gav Murphy wedi bod yn torri ei gŵys ei hun.
Ar un adeg roedd yn rhan o dîm y wefan Americanaidd, IGN (Imagine Network Games), lle’r oedd yn creu fideos o’i hun yn chwarae gemau cyfrifiadur.
Ac mae’n dal i wneud bywoliaeth o hynny hyd heddiw gyda RKG, ei gwmni ef a’i ffrindiau.
Mae’r Cymro Cymraeg 34 oed o dref Ystrad Mynach ger Caerffili, hefyd wedi cyfrannu cryn dipyn at Hansh a Radio Cymru.
Dechreuodd y cyfan yn 2007 pan symudodd i Lundain ar ôl astudio ym Mhrifysgol Aberystwyth…

DARLLEN MWY

RHANNWCH