Rydyn ni’n llawn cyffro wrth gyhoeddi cyfle anhygoel i gerddorion ifanc ledled Cymru fel rhan o’n sioe sydd i ddod, Feral Monster, sioe gerdd fywiog newydd am arddegwr di-nod. Mae Feral Fest yn cynnig llwyfan i gerddorion ifanc ddysgu am gyfansoddi caneuon a chreu cerddoriaeth ar gyfer y theatr. Dyma dy gyfle i fod yn rhan o brosiect cynhwysol sy’n dathlu amrywiaeth, creadigrwydd a chymuned.
Mae National Theatre Wales yn cael ei ysgogi gan anelu at gysylltiad. Rydyn ni’n gweld theatr fel arf i ddod â phobl ynghyd i fyfyrio, archwilio a chael ein hysbrydoli gan straeon ein cenedl. Rydyn ni am i bawb yng Nghymru weld eu hunain, eu cymunedau, eu profiadau a’u dyfodol yn cael eu dychmygu yn y gwaith yr ydyn ni’n ei wneud.
Mae ein model ymgysylltu arloesol, NTW TEAM, wrth wraidd hyn. Rydyn ni’n credu bod gan bawb hawl i gael mynediad at y celfyddydau a chreadigrwydd. Mae TEAM yn dod i adnabod pobl o bob oed, gallu a chefndir, ledled y wlad i wneud i hynny ddigwydd.
Os oes gen ti ddiddordeb mewn cymryd rhan yn Feral Fest, clicia yma i ddysgu mwy