Cartref digidol diwylliant Cymru.

Creative Reflective Practice with Alison O’Connor and Jain Boon

No Categories Found

Cwrs 6 wythnos: Dydd Llun, 19 Chwefror 2024 18:30 – Dydd Llun 25 Mawrth 2024 20:00 GMT

Mae bod yn ymarferydd celfyddydau llawrydd yn gallu bod yn unig. Mae Ymarfer Myfyriol Creadigol Sut Mae’n Mynd? yn lle i gysylltu ag ymarferwyr creadigol eraill.

Bydd Jain yn cynnig set o ymarferion somatig i leddfu a chefnogi eich system nerfol a dod â chi i fan o ddifyrrwch er mwyn i chi osgoi cael eich llethu. Bydd Alison yn rhannu cyfres o ymarferion, gan eich gwahodd i fyfyrio ar eich gwaith a’ch llesiant drwy lens drugarog.

Ein bwriad yw creu man lle gallwn gefnogi ein gilydd a gyda hyn yn ein meddwl rydym ni’n gofyn i’r cyfranogwyr ymrwymo i’r cyfnod llawn o 6 wythnos.

Anelir y rhaglen at ymarferwyr creadigol sy’n gweithio mewn lleoliadau iechyd meddwl neu yn cefnogi cyfranogwyr sy’n fwy tebygol o brofi problemau iechyd meddwl, gan gynnwys y system cyfiawnder troseddol, ffoaduriaid a cheiswyr lloches, goroeswyr trais domestig a rhywiol a phobl sydd wedi cael Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Os nad ydych chi’n siŵr a ydych chi’n bodloni’r meini prawf, cysylltwch â Rheolwr y Rhaglen Tracy Breathnach am sgwrs programmes@wahwn.cymru.

Jain Boon – Mae Jain yn wneuthurwr theatr ac yn Ymarferydd Profi Somatig dan hyfforddiant (Cyfranogwr Lefel Canolraddol). Mae wrthi’n sefydlu thisPLACE, cwmni theatr dawns ar sail trawma gyda’r artist dawns/Seicotherapydd Symud Matilda Tonkin Wells. Mae Jain yn gweithio gyda Theatr Re-Live, Plant y Cymoedd Sparc a Music Theatre Wales ymhlith eraill. Mae’n angerddol dros y syniad fod ‘pobl yn gwella pobl’. @la_boon

Alison O’Connor – Mae gan Alison 25 mlynedd o brofiad mewn waith grŵp, therapi a theatr mewn carchardai, lleoliadau iechyd meddwl diogel, cartrefi plant amddifad yn Romania a gyda chyn-filwyr. Mae’n Gyd-Sylfaenydd Re-Live, elusen Celfyddydau ac Iechyd arobryn, sy’n creu gwaith stori bywyd therapiwtig gydag oedolion hŷn a phobl y mae trawma ac adfyd wedi effeithio arnynt. Mae’n therapydd integreiddiol ac yn oruchwyliwr clinigol, gyda diddordeb arbennig mewn dulliau’n seiliedig ar dosturi. Mae’n gweithio gyda hiwmor a mwynder, gan annog therapyddion i ofalu amdanynt eu hunain a’u meithrin eu hunain o fewn y gwaith a wnânt.

Jain Boon – Mae Jain yn wneuthurwr theatr ac yn Ymarferydd Profi Somatig dan hyfforddiant (Cyfranogwr Lefel Canolraddol). Mae wrthi’n sefydlu thisPLACE, cwmni theatr dawns ar sail trawma gyda’r artist dawns/Seicotherapydd Symud Matilda Tonkin Wells. Mae Jain yn gweithio gyda Theatr Re-Live, Plant y Cymoedd Sparc a Music Theatre Wales ymhlith eraill. Mae’n angerddol dros y syniad fod ‘pobl yn gwella pobl’. @la_boon

Alison O’Conor – Mae gan Alison 25 mlynedd o brofiad mewn waith grŵp, therapi a theatr mewn carchardai, lleoliadau iechyd meddwl diogel, cartrefi plant amddifad yn Romania a gyda chyn-filwyr. Mae’n Gyd-Sylfaenydd Re-Live, elusen Celfyddydau ac Iechyd arobryn, sy’n creu gwaith stori bywyd therapiwtig gydag oedolion hŷn a phobl y mae trawma ac adfyd wedi effeithio arnynt. Mae’n therapydd integreiddiol ac yn oruchwyliwr clinigol, gyda diddordeb arbennig mewn dulliau’n seiliedig ar dosturi. Mae’n gweithio gyda hiwmor a mwynder, gan annog therapyddion i ofalu amdanynt eu hunain a’u meithrin eu hunain o fewn y gwaith a wnânt.

RHANNWCH