Cartref digidol diwylliant Cymru.

Weave/Gwehyddu – Panel 1 – The need for a creative approach to tackle mental health inequalities

No Categories Found

Crynodeb

Mae’r drafodaeth banel hon ar anghydraddoldebau mewn iechyd meddwl a llesiant yn ystyried sut y gall y sector creadigol gyfrannu at wella cydraddoldeb mewn iechyd meddwl a llesiant, a chanlyniadau iechyd ehangach i bobl sy’n profi anawsterau iechyd meddwl.

Cadeirydd

Emily van de Venter, Ymgynghorydd Arweiniol ar gyfer Iechyd Meddwl, Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae Emily van de Venter yn ymgynghorydd gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru gyda chyfrifoldeb arweiniol am warchod a hyrwyddo llesiant meddwl. Mae wedi gweithio ym maes iechyd cyhoeddus y DU ers 15 mlynedd ac mae ganddi ddiddordeb ers tro mewn iechyd meddwl a llesiant, a sbardunwyd gan radd israddedig mewn niwrowyddoniaeth. Mae Emily wedi cyhoeddi papurau ar ddulliau gweithio yn y celfyddydau ac iechyd, yn ogystal ag effaith pandemig COVID-19 ar lesiant.

Panelwyr

Dr Habib Naqvi, MBE, Prif Weithredwr, Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG

Dr Habib Naqvi yw Prif Weithredwr Arsyllfa Hil ac Iechyd y GIG yn y DU, sy’n nodi ac yn mynd i’r afael ag anghydraddoldebau ethnig mewn iechyd a gofal.

Lexi Ireland, Arweinydd Strategol Anghydraddoldebau Iechyd, Ymddiriedolaeth Partneriaeth Coventry a Warwickshire

Bydd Lexi’n rhannu ei gwaith ar salwch meddwl difrifol ac anghydraddoldebau iechyd, yr angen am ddulliau partneriaeth arloesol, a’r celfyddydau ac ethnigrwydd, gan gynnwys hyrwyddo gwaith a gyflawnir gan y Rhwydwaith Cynhwysiant Diwylliannol.

Nerys Edmonds, Prif Swyddog Datblygu Asesu Effaith Iechyd, Iechyd Cyhoeddus Cymru

Bellach mae Nerys yn gweithio i Uned Gymorth Asesu’r Effaith ar Iechyd Cymru yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ac yn Ymddiriedolwr y Sefydliad Iechyd Meddwl. Hi yw awdur y Pecyn Cymorth Asesu Effaith Llesiant Meddwl (2011), ac Asesiadau Effaith Iechyd ar Brexit a Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru.

RHANNWCH