Pwy rydym ni
Menter gymdeithasol sydd wedi ennill sawl gwobr yw DEG sy’n cefnogi gweithredu cymunedol ar hyd a lled gogledd orllewin Cymru. Rydym yn ymdrechu i gynyddu gallu ein hardal i ddelio gyda’r cynnydd yng nghost tanwydd ffosil, ac i wella ein amgylchedd naturiol a symud tuag at gymunedau di-garbon.
Beth rydym ni’n gwneud
Mae ein gwaith yn rhoi hyder, gwybodaeth ac uchelgais i gymunedau gymryd perchnogaeth o’u dyfodol trwy brosiectau fel:
• Lleihau’r defnydd o ynni, costau tanwydd a dibyniaeth ar danwydd anghynaliadwy
• Cryfhau’r economi leol
• Cynhyrchu trydan a gwres cynaliadwy
Mae DEG yn hwyluso gweithredu arfer gorau trwy gynnal digwyddiadau sy’n cysylltu cymunedau ac yn annog dysgu, rhannu sgiliau a phrofiadau.
Mae DEG yn darparu gwybodaeth am yr hyn sy’n bosibl, yr hyn a gyflawnwyd mewn mannau eraill yn ein hardal ac arfer gorau gan grwpiau ynni cymunedol ledled Prydain.
Gallwn helpu gyda:
• Nodi cyfleoedd i’ch cymuned
• Cael pobl i gymryd rhan
• Cynllunio a datblygu prosiectau
• Cyrchu arbenigedd
• Codi cyllid i wneud i brosiectau ddigwydd
Gweledigaeth a gwerthoedd
Mae gwaith DEG yn seiliedig ar ein gweledigaeth a’n gwerthoedd:
Gweledigaeth
Rydym yn gweld gogledd orllewin Cymru fel casgliad o economïau lleol bywiog, cysylltiedig sy’n cydweithredu i elwa o fuddion ein treftadaeth naturiol.
Gwerthoedd
1. Credwn y bydd ail-leoleiddio ein heconomïau yn ein gwneud yn llai agored i brisiau ynni cynyddol ac yn rhoi mwy o bwer inni greu’r byd yr ydym ei eisiau.
2. Rydym yn cyfrannu at gymunedau yn dod yn gryfach, yn fwy hunangynhaliol ac yn gydnerth trwy gynhyrchu eu hynni eu hunain a’i ddefnyddio’n effeithlon.
3. Rydym yn gweld cynaladwyedd yr amgylchedd naturiol, cyflawni cyfleoedd cyflogaeth a’r iaith a diwylliant Cymraeg yn gysylltiedig â’i gilydd.
4. Rydym am i bobl deimlo’n hyderus y gallant gyfrannu at greu gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer y dyfodol a chydweithio i’w gyflawni.
5. Rydym yn hyrwyddo dull cydweithredol lle mae unigolion a chymunedau yn cydnabod eu cydgysylltiad ac yn cefnogi ei gilydd trwy rannu sgiliau ac adnoddau er budd pawb.
6. Rydym yn ceisio deall a gweithio ochr yn ochr â chymunedau i nodi atebion sy’n iawn iddyn nhw, gan adael etifeddiaeth barhaol o sgiliau, gwybodaeth a gallu.