Cartref digidol diwylliant Cymru.

Aildanio 2022-23 Arts Prize Exhibition

Dydd Sadwrn 16 Medi 2023 – Dydd Sul 5 Tachwedd 2023
10:00 am – 4:30 pm

Bydd ‘Aildanio’, yr arddangosfa Gwobr Gelf Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC) yn teithio’n genedlaethol ar draws chwe oriel yn dechrau yn g39 Caerdydd o 18fed Tachwedd 2022.

Mae’r arddangosfa, a ariannir gan Gyngor Celfyddydau Cymru yn cynnwys 26 o weithiau celf gan artistiaid anabl wedi’i lleoli yng Nghymru, dewisir o dros 100 o gyflwyniadau i ymatebion creadigol i foment ‘aildanio’. Dyma gyfle arbennig i brofi gwaith celf weledol flaengar a phryfoclyd gan rai o artistiaid gorau Cymru.

Mae CAC, sefydliad cenedlaethol celfyddydau anabledd yn dathlu 40 mlynedd o hyrwyddo cydraddoldeb i bobl anabl a Byddar yn y celfyddydau ac yn falch i ddechrau’r daith ‘Aildanio’ yn g39, sefydliad sy’n cael ei redeg gan artistiaid a gofod cymunedol creadigol yng Nghaerdydd.

Mae Celfyddydau Anabledd Cymru (CAC) yn gweithio i hyrwyddo cydraddoldeb i artistiaid anabl a Byddar yng Nghymru.

CAC yw’r prif sefydliad cenedlaethol ar gyfer celfyddydau anabledd, gan gefnogi dros 300 o aelodau sy’n artistiaid Byddar neu anabl i greu a rhannu gwaith a chael mynediad at gyfleoedd ar bob cam o’u taith greadigol.

Wedi’i ffurfio fel Elusen ym 1982, mae CAC ar hyn o bryd yn dathlu ei 40fed blwyddyn fel yr unig sefydliad celfyddydol a arweinir gan anabledd i Gymru gyfan. Gan weithio i’r model cymdeithasol o anabledd, mae CAC yn cydnabod mai rhwystrau cymdeithasol sy’n ein gwneud yn anabl, nid ein namau. Yn ogystal â chefnogi artistiaid unigol, CAC yw’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n darparu Hyfforddiant Cydraddoldeb Anabledd (HCA) sy’n benodol i’r celfyddydau.

Dewch yn aelod o Gelfyddydau Anabledd Cymru heddiw i ymuno neu gael mynediad at y rhwydwaith mwyaf o artistiaid anabl yng Nghymru ac elwa o gyngor arbenigol, cefnogaeth, digwyddiadau a chyfleoedd.

Rydym hefyd yn croesawu aelodau anabl a rhai nad ydynt yn anabl neu nad ydynt yn artistiaid ond sydd â diddordeb mewn cefnogi ein gwaith.

Mae aelodaeth am ddim i bobl anabl a Byddar sy’n hunanddatgelu a £10 i bobl nad ydynt yn anabl a phobl y tu allan i Gymru. Darganfod mwy: https://disabilityarts.cymru/ Cefnogwch ein gwaith: https://localgiving.org/charity/disability-arts-cymru/

RHANNWCH