Cartref digidol diwylliant Cymru.

amrwd – Angharad Jenkins, Patrick Rimes

Cerddoriaeth

amrwd (sef raw yn Saesneg) yw albwm cyntaf dau artist sydd ar flaen y gad yn y sîn werin Gymraeg.

A hwythau ymhlith aelodau gwreiddiol y band arobryn CALAN, mae Angharad Jenkins a Patrick Rimes (sydd hefyd wedi sefydlu Vrï) wedi treulio pymtheg mlynedd ar flaen byd cerddoriaeth draddodiadol Cymru, yn gyson yn plygu a churo’r gerddoriaeth honno i siapiau anghyfarwydd gyda’u dehongliadau blaengar o’r hen repertoire.

Yn sgil pum albwm stiwdio a sawl taith hirfaith ar draws tri chyfandir, mae perthynas gerddorol ddofn wedi cael ei meithrin rhyngddynt, ynghyd â rhannu iaith gerddorol reddfol, a dyhead i glywed yr alawon hynafol hyn fel ag y maent: yn amrwd a heb eu hidlo.

“mae amrwd yn crynhoi sain ein llinynnau, ein lleisiau, ynghyd ag allweddellau ac offerynnau taro. Mae’r cyflwyniad yn gignoeth, wedi’i ddinoethi, yn bur ac yn syml.”

Prynwch CD ‘amrwd’ yma

RHANNWCH