Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pennod 12 – Arthur y Barbwr

Llenyddiaeth

Gan fod ‘Culhwch ac Olwen’ yn chwedl mor fawr a mor bwysig, rydym wedi neilltuo dwy bennod gyfan i’w thrafod hi. Eglurwn yn y bennod hon pam fod y stori ganoloesol hon mor ddiddorol a pham bod y testun llenyddol hwn mor bwysig. Dyma gyfle i weld yr Athur Cymreig a Chymraeg cynhenid ar ei orau, yng nghanol camp a rhemp llys sy’n llawn cymeriadau rhyfeddol. Ond mae hefyd yn stori am ymgais Culhwch i gael hyd i Olwen a’i phriodi, ac mae stori werin draddodiadol am arwr yn priodi merch y cawr yn fframwaith ar gyfer llwyth o anturiaethau.
Nodweddir y chwedl hon gan gyflawnder o gymeriadau Arthuraidd, gan gynnwys ambell un a fydd yn gyfarwydd i ddilynwyr ‘Yr Hen Iaith’ (fel y porthor Glewlwyd Gafaelfawr, er enghraifft, a fedyddiwyd gan Richard Wyn Jones yn ‘Gyfaill y Pod’). Ac, ie, pam bod Culhwch yn mynd at Arthur er mwyn cael torri’i wallt?!

Darllen pellach: / Further Reading:
– Rachel Bromwich a D. Simon Evans (goln.), Culhwch ac Olwen (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2012).
– Dafydd Ifans a Rhiannon Ifans, Y Mabinogion[:] Diweddariad (Llandysul: Gwasg Gomer, 1980)

RHANNWCH