Cartref digidol diwylliant Cymru.

The Mab – Various (Unbound)

Llenyddiaeth

Get your copy of ‘The Mab’ here!

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi wedi clywed yr holl straeon tylwyth teg sydd yn bodoli, meddyliwch eto. Yn y llyfr hwn fe welwch 11 fersiwn newydd sbon o straeon gwirioneddol hen o’r Mabinogi – efallai’r straeon hynaf yn hanes Prydain.

Ond yn ogystal â bod yn wirioneddol, wirioneddol hen, mae’r straeon yn The Mab yn rhyfedd a doniol a gwefreiddiol. Yn llawn â dirgelwch a hud a lledrith, maent yn sôn am amser pan oedd y gatiau rhwng y Byd Go Iawn a’r Byd Arall yn cael eu gadael ar agor o bryd i’w gilydd. Ac weithiau, dim ond weithiau, roedd yn bosibl camu drwodd.

Mae’r straeon yn y rhifyn darluniadol hwn wedi’u hail-ddychmygu gan dîm eithriadol o awduron, ac mae pob un yn ymddangos ochr yn ochr â chyfieithiad Cymraeg.

Dewch i gyfarfod awduron ‘The Mab’ yma!

RHANNWCH