Cartref digidol diwylliant Cymru.

Gair o Gariad (Love letters at Home)

NOS FERCHER, 24.06.20 | 20:00
Sioe fyw hyfryd, yn gwbl ddigidol ac yn hollol bersonol hefyd.

Dewch i rannu o’r profiad hudolus yma a chynnig llwncdestun i gariadon, i rieni, i gyfeillion pell ac agos. Dyma gyfle i gyd-gyfarfod mewn modd unigryw mewn cyfnod lle mae cyd-gyfarfod go iawn yn amhosib. Mae croeso i chi yrru cais i mewn o flaen llaw am gân arbennig gan egluro pam ei bod yn bwysig i chi, ac efallai caiff ei chwarae yn ystod y sioe.
Mae Bara Caws wrth eu bodd yn cael cyflwyno sioe rithiol ‘Gair o Gariad’ (Love Letters at Home) i chi, mewn partneriaeth â Fuel, Uninvited Guests a Theatr Clwyd.
Cyfarwyddo: Betsan Llwyd.

Mwy o fanylion YMA

RHANNWCH