Mae Sioned Erin Hughes yn byw ym Moduan, ger Pwllheli. Graddiodd mewn Cymdeithaseg a Chymraeg ym Mhrifysgol Bangor, cyn dilyn cwrs Meistr mewn Ysgrifennu Creadigol. Daeth yn fuddugol am y Goron yn Eisteddfod yr Urdd 2018, ac yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod yr Urdd 2022. Hi oedd golygydd a churadur y gyfrol Byw yn fy Nghroen, a enillodd Wobr Tir na n-Og yn 2020. Ysgrifennodd lyfr i blant, Y Goeden Hud, ar ddechrau’r clo mawr cyntaf yn 2020. Dyma ei llyfr cyntaf i oedolion – llyfr a enillodd iddi’r Fedal Ryddiaith yng Ngheredigion eleni.