Mae Osian Wyn Owen yn fardd cydnabyddedig sy’n prysur wneud enw iddo ef ei hun. Yn 2018, ef oedd Prifardd Eisteddfod yr Urdd Brycheiniog a Maesyfed, ac mae hefyd wedi cipio’r dwbl – y Gadair a’r Goron – yn Eisteddfod Ryng-golegol Llanbedr Pont Steffan yn 2018. Enillodd hefyd brif wobr farddoniaeth Eisteddfod-T yn 2020. Mae’n fardd caeth ac yn 2019 derbyniodd nawdd gan Barddas i fynychu cwrs ar y gynghanedd yng Nghanolfan Ysgrifennu Tŷ Newydd. Ers hynny, bu’n perffeithio’r grefft wrth fynychu gwersi cynganeddol yng Nghaernarfon o dan arweiniad y Prifardd Rhys Iorwerth, ac erbyn hyn, mae’n athro barddol ei hun. Mae’n fardd cynhyrchiol iawn yn sgil cystadlu ar raglen Y Talwrn gyda thîm y Chwe Mil, ac yn cyfrannu cerddi yn gyson i wahanol gylchgronau. Yn wreiddiol o’r Felinheli, aeth Osian i’r Brifysgol ym Mangor i astudio’r Gymraeg ac mae bellach yn byw yng Nghaernarfon ac yn rhedeg ei gwmni Cysylltiadau Cyhoeddus ei hun o’r enw Ar Goedd.