Cartref digidol diwylliant Cymru.

Rhestr Fer #LLYF23 | #WBOTY23 Shortlist

Llenyddiaeth

Darganfyddwch pwy sydd wedi ennill #LLYF23 isod nawr!

Heddiw, dydd Sul 21 Mai, cyhoeddodd Llenyddiaeth Cymru Restr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2023. Datgelwyd y rhestr, sy’n cynnwys 12 o lyfrau, ar raglen Ffion Dafis ar BBC Radio Cymru yng nghwmni beirniaid y wobr rhwng 2.00 pm a 4.00 pm.

Yn gwobrwyo dros bedwar categori yn y Gymraeg a’r Saesneg – Barddoniaeth, Ffuglen,
Ffeithiol Greadigol a Plant a Phobl Ifanc – mae Gwobr Llyfr y Flwyddyn yn dathlu rhai o
weithiau llenyddol gorau’r flwyddyn galendr flaenorol. Cyhoeddwyd y Rhestr Fer Saesneg ar
raglen Lynn Bowles ar BBC Radio Wales ar yr un diwrnod.


Y Rhestr Fer Gymraeg

Y Wobr Farddoniaeth

Tosturi, Menna Elfyn (Cyhoeddiadau Barddas)
Y Lôn Hir Iawn, Osian Wyn Owen (Cyhoeddiadau Barddas)
Anwyddoldeb, Elinor Wyn Reynolds (Cyhoeddiadau Barddas)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

Sgen i’m Syniad – Snogs, Secs, Sens, Gwenllian Ellis (Y Lolfa)
Cylchu Cymru, Gareth Evans Jones (Y Lolfa) 
Cerdded y Caeau, Rhian Parry (Y Lolfa)

Gwobr Ffuglen

Pumed Gainc y Mabinogi, Peredur Glyn (Y Lolfa)
Rhyngom, Sioned Erin Hughes (Y Lolfa)
Pridd, Llŷr Titus (Gwasg y Bwthyn)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc 

Dwi Eisiau Bod yn Ddeinosor, Luned Aaron a Huw Aaron (Atebol) 
Byd Bach Dy Hun, Sioned Medi Evans (Y Lolfa)
Powell, Manon Steffan Ros (Y Lolfa)

Y Beirniaid

Caiff panel o feirniaid annibynnol eu penodi i ddarllen, trafod, a dewis a dethol y rhestr fer bob blwyddyn. Eleni mae’r panel Cymraeg yn cynnwys y bardd arobryn Ceri Wyn Jones; awdur ac enillydd Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021 Megan Angharad Hunter; y cyn-gomisiynydd comedi, awdur a chynhyrchydd Sioned Wiliam; ac ymddiriedolwr Mudiad Meithrin a’r hyrwyddwr amrywiaeth a chynhwysiant Savanna Jones.

Ar ran y panel beirniadu, dywedodd Ceri Wyn Jones: “Wedi misoedd o ddarllen a phwyso a mesur, mae mor braf medru rhannu’r rhestr hon o lyfrau â’r cyhoedd, rhestr sy’n dangos unwaith eto mor fyw yw’r Gymraeg fel iaith greadigol ac mor barod yw hi, yn ei hamrywiol ffurfiau, i fentro i fannau newydd, yn ogystal ag ail-ymweld â’r mannau oesol.”

Mae Llenyddiaeth Cymru, y cwmni cenedlaethol â chyfrifoldeb dros ddatblygu llenyddiaeth, wedi rhedeg Gwobr Llyfr y Flwyddyn ers 2004. Yn ystod y cyfnod hwnnw mae rhai o awduron enwocaf Cymru wedi derbyn gwobrau ochr yn ochr â thalentau newydd, disglair. Mae’r wobr yn rhan hanfodol o weithgaredd y sefydliad, ac yn eu helpu i gyflawni eu nod o ddathlu a chynrychioli awduron, treftadaeth a diwylliant llenyddol cyfoethog Cymru.

Yn ôl Cyfarwyddwr Gweithredol Llenyddiaeth Cymru, Claire Furlong: “Fel un o uchafbwyntiau’r calendr llenyddol yng Nghymru, pleser o’r mwyaf yw cael cyhoeddi Rhestr Fer Gwobr Llyfr y Flwyddyn a dathlu amrywiaeth a chyfoeth ein llên. Mae rhai wythnosau tan y cawn glywed pwy sy’n cipio’r prif wobrau eleni, felly os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes, ewch ati i ddarllen y cyfrolau arbennig hyn, a lle bynnag y byddwch chi – mewn llyfrgell, yn y swyddfa, wrth giatiau’r ysgol – trafodwch nhw, dathlwch nhw, ac anogwch eraill i wneud yr un peth.”

Y Rhestr Fer Saesneg

Y Wobr Farddoniaeth

As If To Sing, Paul Henry (Seren Poetry Wales Press Ltd)
The language of bees, Rae Howells (Parthian Books)
A Marginal Sea, Zoë Skoulding (Carcanet Press)

Gwobr Ffeithiol Greadigol

And… a memoir of my mother, Isabel Adonis (Black Bee Books)
The Sound of Being Human: How Music Shapes Our Lives, Jude Rogers (Weidenfeld and Nicolson)
Original Sins, Matt Rowland-Hill (Chatto & Windus)

Gwobr Ffuglen Ymddiriedolaeth Rhys Davies

This Is Not Who We Are, Sophie Buchaillard (Seren Poetry Wales Press Ltd)
Fannie, Rebecca F. John (Honno Ltd.)
Drift, Caryl Lewis (Doubleday – Transworld, Penguin Random House)

Gwobr Plant a Phobl Ifanc

The Mab, Various Authors (Unbound)
The Last Firefox, Lee Newbery (Penguin Random House Children’s)
When the War Came Home, Lesley Parr (Bloomsbury Children’s Books)

Ar y panel Saesneg mae’r awdur, actores ac enillydd gwobr BAFTA Emily Burnett; yr awdur a’r athro Emma Smith-Barton; y bardd a’r golygydd Kristian Evans; a chyn-enillydd categori Llyfr y Flwyddyn Mike Parker.

Y Camau Nesaf

Am y tro cyntaf ers pedair blynedd, cynhelir seremoni fyw i ddathlu campau’r awduron eleni, a hynny ar nos Iau 13 Gorffennaf yn y Tramshed yng Nghaerdydd. Bydd Llenyddiaeth Cymru yn rhannu cyfanswm o £14,000 mewn gwobrau ymysg yr enillwyr. Bydd enillydd, neu enillwyr, pob categori’n derbyn gwobr o £1,000 ac fe fydd prif enillwyr y wobr yn derbyn £3,000 yn ychwanegol. Yn ogystal â hyn bydd pob enillydd hefyd yn derbyn tlws eiconig Llyfr y Flwyddyn sydd wedi’i ddylunio gan yr artist a gof Angharad Pearce Jones.

Yn ogystal â chyhoeddi enillwyr ym mhob categori a prif enillydd, cyhoeddir pa lyfrau sydd wedi mynd â bryd y cyhoedd trwy ddatgelu enillwyr Barn y Bobl Golwg360 a Wales Arts Review.

Ewch draw i’ch siop lyfrau neu llyfrgell leol nawr er mwyn cael gafael ar gopi o’r llyfrau ar y rhestr fer cyn mynd ati i bleidleisio dros eich ffefryn.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth holl noddwyr a phartneriaid y wobr: Ymddiriedolaeth Rhys Davies, Cyngor Llyfrau Cymru a BBC Cymru Wales, a’u arianwyr Cyngor Celfyddydau Cymru a Llywodraeth Cymru.

I ganfod mwy am y wobr a’r llyfrau hynny sydd wedi cyrraedd y rhestr fer, ewch draw i dudalen Gwobr Llyfr y Flwyddyn ar wefan Llenyddiaeth Cymru.

RHANNWCH