Yn y bennod hon trafodwn ‘Ganu Heledd’, y farddoniaeth ganoloesol sy’n gysylltiedig â stori tywysoges o hen deyrnas Powys a dystiodd i farwolaeth ei theulu a chwalfa’i chymdeithas. Ond yn hytrach nag adrodd y stori, mae’r cerddi telynegol hyn yn canolbwyntio ar ymateb emosiynol Heledd. Dyma lenyddiaeth sy’n trafod colled, galar a hiraeth mewn modd ingol o gofiadwy.
Dyma hefyd lais benywaidd prin sy’n wrthbwynt i natur wrywaidd lethol y traddodiad barddol canoloesol. Nodwn wrth fynd heibio fod y farddoniaeth bwerus hon wedi dylanwadu’n drwm ar lenyddiaeth a cherddoriaeth Gymraeg yr 20fed ganrif hefyd. Ac mae trafodaeth am arwyddocâd treiglad sy’n pwysleisio – ormod, ym marn Richard Wyn Jones, efallai! – fod y math yma o fanylyn gramadegol yn gallu bod yn allweddol bwysig i ystyr a naws testun llenyddol.