I’r rhai sy’n ymwneud â byd llenyddiaeth plant a phobl ifanc Cymraeg, mae’r ddadl rhwng llyfrau gwreiddiol ac addasiadau’n un cyfarwydd. Mae dylanwad y diwydiant llyfrau Prydeinig yn gryf yng Nghymru, ac mae’n anochel y bydd plant eisiau darllen rhai o’u hoff lyfrau gan awduron byd enwog -eich David Walliams’ a’r J.K.Rowlings. Rhaid felly, sicrhau darpariaeth i fodloni’r gofyn hyn, fel y gellir o leiaf mwynhau’r rhain yn y Gymraeg. Fodd bynnag, mae nifer yn teimlo na ddylai’r nifer o addasiadau sy’n cael eu cyhoeddi mewn blwyddyn fod yn uwch na’r nifer o lyfrau gwreiddiol. Dyma ddadl sy’n mynd i barhau, tybiwn i. Nid wyf am fentro cynnig ateb chwaith, ond be dwi yn deimlo, yw bod rhaid cael cydbwysedd – mae isio dipyn bach o bopeth da yn y diet llenyddol…
Dwi’n reit falch, felly, fod teitlau llwyddiannus yn cael eu cyfieithu er mwyn i blant Cymru gael eu mwynhau yn y Gymraeg. Yn amlwg mae ’na rywun yn Rily yn gwneud penderfyniadau da iawn ynglŷn â pha deitlau i’w haddasu. Bethan Mair sydd wedi bod wrthi’n cyfieithu The Boy at The Back of The Class gan Onjali Q. Raúf a dwi’n meddwl ei bod hi wedi gwneud joban dda iawn, chwarae teg (mae addasu’n llwyddiannus yn grefft, ac yn llawer anoddach nac y mae’n ymddangos!).
Dyma stori annwyl a theimladwy iawn, sy’n defnyddio peth hiwmor i drafod pwnc sy’n reit ddwys, i fod yn onest. Wrth drafod pwnc sydd efallai yn ddwys neu’n sensitif, dwi’n meddwl fod gwneud defnydd o hiwmor yn beth call, neu mi fasa ’na beryg i’r nofel droi’n rhy serious. Nid yw hyn yn wir yn yr achos yma a dwi’n meddwl fod cydbwysedd da.
Gyda Y Crwt yn y Cefn, cawn weld ‘argyfwng y ffoaduriaid’ drwy lygaid plentyn ifanc, o bosib tua 9 oed, felly disgybl ym mlwyddyn 5. Persbectif yr adroddwr y cawn ni drwy’r llyfr i gyd, a gwelwn y byd a’i anghyfiawnderau a’i ddryswch drwy ei lygaid ef/hi. Rhaid i mi gyfaddef, doeddwn i ddim yn siŵr tan y diwedd un os mai bachgen neu ferch oedd yn adrodd y stori (wnâi ddim dweud!).
Dechreua’r stori wrth i fachgen newydd ddod i’r ysgol, sydd wastad yn ennyn dipyn o gyffro. Mae cryn dipyn o ddirgelwch o gylch y bachgen a does neb yn gwybod fawr ddim amdano. Mae’r adroddwr yn chwilfrydig iawn ac yn awyddus i ddod i’w nabod yn well. Wrth i’r nofel fynd yn ei blaen, down i wybod mai ffoadur yw Ahmet, sy’n byw gyda mam faeth gan ei fod wedi cael ei wahanu oddi wrth gweddill ei deulu wrth iddynt geisio dianc rhag y bomiau a’r trais yn Syria.
Drwy’r nofel, mae cyfeillgarwch yn blaguro ac yn datblygu rhwng Ahmet, yr adroddwr a’r criw o ffrindiau, Josie, Michael a Tom. Yn anffodus, daw’r bachgen newydd a’i ffrindiau at sylw Brendan y bwli, ac mae tipyn go lew o helynt i ddilyn. Mae’n bechod nad yw pob athro yn llawer o help, ond diolch byth am Mrs Khan a Miss Hemsi.
Er bod y criw ifanc yn gwneud popeth y gallent i groesawu Ahmet, mae o’n dal i ddigalonni wrth hiraethu am ei rieni. Dyma yw prif blot y nofel, wrth i’r adroddwr ddyfeisio cynllun uchelgeisiol i ffeindio rhieni Ahmet. Mae’r cynllun yn un daring a pheryglus, ac fe aiff â’r cymeriadau ar dipyn o antur… yr holl ffordd i Balas Buckingham!
Dyma nofel amserol iawn, sy’n cyflwyno’r pwnc (sydd ar y newyddion yn aml) mewn ffordd sy’n ddealladwy i blant oed cynradd. Antur, cyfeillgarwch, caredigrwydd a thosturi yw rhai o’r themâu sydd fwyaf amlwg drwy gydol y nofel. Mae’r ffordd y mae’r plant yn gofalu am ei gilydd yn y nofel yn galonogol ac yn gosod esiampl o sut dylem drin ein gilydd. Mae plant yn aml iawn yn dangos llai o duedd a rhagfarn na ni’r oedolion!
Efallai fod yr awdur yn gwneud i’r prif gymeriad ymddangos yn fwy ifanc na phlentyn 9 oed ar brydiau. Dwi’m yn siŵr os oedd o’n gredadwy nad oedd yr adroddwr wedi clywed am yr Ail Ryfel Byd. Mae’n bosib fod yr awdur wedi colli ambell gyfle i ddatblygu’r cymeriadau’n ddyfnach ac ar adegau roedd rhai o’r cymeriadau’n teimlo braidd yn ystrydebol. Fy marn i’n unig yw hyn a phethau bach iawn ydyn nhw mewn gwirionedd sy’n tynnu dim oddi ar nofel ardderchog.
Mae’r mater o ffoaduriaid yn un gwleidyddol a dyngarol cymhleth iawn; nid oes iddo ateb syml yn anffodus. Dangosa’r llyfr fod modd i blant leisio’u barn drwy weithredu ac ymgyrchu, er mwyn sicrhau bod oedolion mewn grym yn cymryd sylw ohonynt. Un o’r negeseuon take-home o’r llyfr yw bod gan blant y pŵer i weithredu ac i ysgogi newid wrth frwydro dros gyfiawnder.
Athrawon – ystyriwch hon o ddifri fel nofel ddosbarth gan fod y testun yn cynnig cyfleoedd dysgu gwerthfawr a llawer o sgôp am sgyrsiau difyr a phwysig gyda phlant. Fel nofel ar gyfer darllen annibynnol, dwi’n rhagweld y byddai angen sgiliau darllen Cymraeg eithaf aeddfed.