Cyfranc Lludd a Llefelys sydd dan sylw yn y bennod hon. Er ei bod hi’n chwedl fer iawn, mae’n stori fawr, ac mae’n bosib ei gweld hi fel pont rhwng chwedloniaeth Gymreig a hanesyddiaeth Gymreig. Wrth fwrw golwg ffantasïol ar hanes, mae’n mynd i’r afael â’r thema honno sy’n ganolog i hunaniaeth Gymreig, sef y ffaith bod y Cymry’n ddisgynyddion i drigolion gwreiddiol yr ynys cyn i genhedloedd estron ymosod arni. Mae Lludd yn frenin ar Brydain ac mae’i frawd Llefelys yn priodi merch brenin Ffrainc. Ond pan ddaw tair gormes estron i fygwth teyrnasiad Lludd, mae’n rhaid iddo fanteisio ar ddoethineb ei frawd. Cewch glywed hanes y Ddraig Goch sydd ar faner Cymru a chlywed Richard Wyn Jones yn mynd i hwyl wrth ddychmygu’r Cymro Ffrengig Llefelys. Ac, wrth gwrs, cewch ddysgu beth yw ystyr ‘cyfranc’.