Yn y bennod hon trafodwn gainc gyntaf ‘Pedair Cainc y Mabinogi’, Chwedl Pwyll Pendefig Dyfed.
Er bod Pwyll ‘yn arglwydd ar saith cantref Dyfed’, fel y dywed brawddeg gyntaf y chwedl , nid oes ganddo lawer o ddoethineb. Yn wir, mae’n bosibl ei gweld hi fel stori am sut mae Pwyll yn dysgu bod yn bwyllog. Mae’n ymddwyn mewn modd byrbwyll nifer o weithiau ac mae’n rhaid i gymeriadau eraill – Arawn, brenin Annwfn a Rhiannon, gwraig Pwyll – ei helpu. Mae Rhiannon ymysg cymeriadau mwyaf cofiadwy’r traddodiad llenyddol Cymraeg, yn fenyw ddoeth sy’n siarad yn ffraeth ac yn rhoi’i gŵr amhwyllog yn ei le pan fo angen. O gofio cyd-destun hanesyddol uniongyrchol y gwaith llenyddol hwn, sef Cymru ‘Oes y Tywysogion’, mae’n bosibl darllen y chwedl hon fel ‘drych i dywysogion’, fel testun sy’n cynnig gwersi i ddarpar arweinwyr.
Cyflwynwyd gan: Yr Athro Jerry Hunter a’r Athro Richard Wyn Jones
Cynhyrchwyd gan: Richard Martin
Cerddoriaeth: Might Have Done gan The Molenes