Rydyn ni wrth ein bodd i rannu’r ffilm derfynol o brosiect Traethlinau ar draeth Poppit!
“Roedd y cynnig olaf ar y tywod ar draeth Poppit. Yn lle creu cynllun crwn, y tro hwn dyluniodd yr artist tywod Rachel Shiamh rywbeth oedd yn gadael i ni weithio’n agos gyda’r tirlun naturiol, felly symudon ni o gwmpas y creigiau’n creu darn o gelf tywod sy’n edrych yn gwbl gartrefol ymysg y creigiau.
Roedd yn fore oer a heulog, felly roedd yn wych bod Angela, Cyfarwyddwr WAHWN wedi sefydlu gwersyll bach gyda diodydd poeth a chacen fanana gartref. Maethlon ar bob lefel!
Roedd y digwyddiad yn rhan o #Traethlinau, cynnig llesiant creadigol i staff Hywel Dda a gomisiynwyd gan dîm Celfyddydau mewn Iechyd Hywel Dda ac a gynhyrchwyd gan WAHWN