Cartref digidol diwylliant Cymru.

Pijin | Pigeon

Cynhyrchiad Theatr Genedlaethol Cymru a Theatr Iolo, mewn cydweithrediad â Pontio

Yn seiliedig ar nofel ‘Pigeon’ gan Alys Conran

Addasiad llwyfan gan Bethan Marlow

Mae’r sioe yma yn ddwyieithog.

Archebwch eich tocynnau nawr!

Mae Pijin yn werth y byd. Wel, dyna farn Iola, ei ffrind gorau. Mae’n ddewr, yn ddoniol a braidd yn beryglus, ac mae hi wrth ei bodd yn ei gwmni. Ond, mae bywyd ymhell o fod yn felys.

Mae Pijin yn dyheu am gael dianc o’r bywyd sy’n aros amdano wrth fynd adref bob nos. Dychymyg, straeon a geiriau yw’r unig ffordd o oroesi. Ond un dydd, nid yw geiriau’n ddigon. Mae ei waliau’n chwalu’n deilchion a bywyd yn newid am byth.

Wedi’i lleoli yng nghysgod chwareli’r gogledd yn y ’90au cynnar, dyma stori afaelgar am dyfu i fyny, am bŵer geiriau, cyfeillgarwch a pha mor bell mae pobl yn fodlon mynd yn enw cariad.

Yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus ‘Pigeon’ gan Alys Conran ac wedi’i haddasu i’r llwyfan gan Bethan Marlow. Mae’r Gymraeg a’r Saesneg yn cyd-blethu, a phob perfformiad yn cynnwys capsiynau Cymraeg a Saesneg.

01 – 03/3 – Pontio, Bangor

07-10/3 – Sherman, Caerdydd

14-15/3 – Ffwrnes, Llanelli

17-18/3 – Theatr Mwldan, Aberteifi

21-22/3 – Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth

24-25/3 – Galeri, Caernarfon

RHANNWCH