Cartref digidol diwylliant Cymru.

Llyfrau Cwpan y Byd

Llenyddiaeth

Wrth i ni edrych ymlaen at weld Cymru yn nhwrneimant Cwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958, dyma gasgliad o lyfrau a fydd yn siŵr o’ch tanio a’ch ysbrydoli.


Y Dyn Dweud Drefn yn Chwarae Pêl Droed – Lleucu Fflur Lynch (Gwasg Carreg Gwalch)

Mae’r Dyn Dweud Drefn yn meddwl mai fo ydi pêl droediwr gorau Cymru, ac mae’n benderfynol o sgorio’r gôl orau erioed. Ond tydi o’n cael fawr o hwyl arni. Tybed all y Ci Bach helpu’r Dyn Dweud Drefn i wireddu ei freuddwyd?

Pêl-Droed Penigamp – Robin Bennett, addasiad Elinor Wyn Reynolds (Firefly)

Llyfr yn llawn hwyl ond a llond trol o ffeithiau hefyd. Mae’n olrhain yr hanes, o ddechreuadau pêl-droed, pan fyddai gemau’n para am ddyddiau, a ffeithiau difyr a straeon anhygoel heddiw. Yn ogystal a chynnwys adrannau sy’n taflu golau ar y goreuon a beth sy’n eu gwneud nhw’n chwaraewyr mor wych.

Cwpan y Byd: Qatar 2022 – Dylan Ebenezer (Y Lolfa)

Ar ôl 64 o flynyddoedd mae cyfle i Gymru ddangos i’r byd ein bod ni YMA O HYD! Dyma’r llyfr angenrheidiol ar gyfer Cwpan y Byd 2022! Mae’n llawn ffeithiau am y gwledydd, y meysydd, hanes y gystadleuaeth, sêr y 32 tim, a thaith Cymru, yn ogystal a lluniau gwych o’r chwaraewyr.

Dau Frawd, Dwy Gem – Stori’r Cabangos – Dylan Ebenezer (Y Lolfa)

Cyfle i ddysgu mwy am aelod o garfan Cymru, Ben Cabango. Dyma stori’r ddau frawd o Gaerdydd sydd yn rhagori mewn dwy gamp, pêl-droed a rygbi. Cawn hanes eu plentyndod a’u gyrfa hyd yn hyn yng ngeiriau Ben a Theo, a’u rhieni Paulo ac Alysia. Cofnod cyfoes, gonest am deulu annwyl a chlos, gyda chwaraen yn ganolog i’w bywyd.

Y Wal Goch – Ar Ben y Byd – Gol. Ffion Eluned Owen (Y Lolfa)

Drwy lygaid rhai o aelodau’r Wal Goch cawn flas ar ddilyn y tîm i bedwar ban; cip ar y caneuon, yr hwyl a’r ffasiwn; a golwg arbennig ar y twf mewn balchder tuag at Gymreictod a’r Gymraeg. Mewn casgliad o ysgrifau, cerddi, dyfyniadau a lluniau, fe archwilir emosiwn, effaith a dylanwad dilyn y tîm pêl-droed cenedlaethol, a gwelwn sut mae’r Wal Goch wedi dod i gynrychioli’r Gymru gyfoes.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH