Mae Other Voices, gŵyl gerdd a rhaglenni teledu cerddoriaeth fyw Iwerddon, sydd wedi eu clodfori’n rhyngwladol, yn falch iawn o gyhoeddi y bydd yn dychwelyd i Aberteifi, Ceredigion y mis Tachwedd hwn. O’r 3ydd i’r 5ed o Dachwedd, bydd yr ŵyl yn cyflwyno rhaglen ysbrydoledig arall o gerddoriaeth fyw a deialog afaelgar sy’n dathlu cysylltiadau cerddorol a diwylliannol hirsefydlog Cymru ac Iwerddon yn fyw ac ar-lein hefyd.
Mae tair blynedd wedi mynd heibio ers i Leisiau Eraill Aberteifi gael ei chynnal am y tro cyntaf ym mis Tachwedd 2019. Y llynedd, symudodd y digwyddiad ar-lein i lwyfan digidol, ond rydym wrth ein bodd y gall cynulleidfaoedd ac artistiaid ddod at ei gilydd o’r diwedd yn wyneb yn wyneb i ddathlu’r berthynas agos rhwng Cymru ac Iwerddon.
Gall cynulleidfaoedd eleni edrych ymlaen at dri diwrnod a thair noson o gerddoriaeth wych gan gerddorion newydd a sefydledig o Gymru, Iwerddon a thu hwnt. Cynhelir Llwybr Cerdd mewn nifer o leoliadau o gwmpas Aberteifi, gyda dros 80 o ddigwyddiadau dros dridiau mewn gofodau cartrefol, llawn awyrgylch o gwmpas y dref, gyda Huw Stephens yn llywyddu ac mewn partneriaeth â’r Mwldan a Triongl.
Cynhelir sesiynau’r prif actau yn Eglwys y Santes Fair a chânt eu dangos yn fyw yn gydamserol yn y Mwldan a’u ffrydio’n fyw yn fyd-eang ar y noson drwy YouTube Other Voices a chyfryngau cymdeithasol eraill. Bydd cynnwys ecsgliwsif o’r penwythnos yn cael ei ffilmio a’i ddarlledu nes ymlaen ar S4C ac RTÉ.
Bydd y sesiynau Clebran yn dychwelyd yn 2022 – cyfres o sgyrsiau wedi’u paratoi’n ofalus gydag artistiaid, newyddiadurwyr, unigolion creadigol a gwleidyddion yn sbarduno sgyrsiau bywiog a chyfoethog mewn perthynas â’n canfyddiad o’n byd, ein hiaith a’n diwylliant. Cynhelir y digwyddiadau hyn yn ystod y dydd ar hyd yr ŵyl dridiau.
Bellach yn ei 20fed flwyddyn, mae Other Voices yn ddathliad gogoneddus o gerddoriaeth a’i holl amrywiaeth. O’i dechreuad fel casgliad cerddorol clyd mewn eglwys fach yn Dingle, mae gŵyl eiconig Iwerddon wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau byd-eang yn Austin, Llundain, Belffast, Berlin, Derry, Efrog Newydd gyda 35 miliwn o bobl eraill yn cael blas o’r ŵyl ar-lein. Cafodd gyfres ddigidol ‘Courage’ Other Voices ei gwylio dros 9.6 miliwn o weithiau yn 2020, gan ddod â cherddoriaeth fyw yn ôl yn ddiogel i fywydau pobl gyda pherfformiadau gan Lisa Hannigan, Fontaines D.C a mwy. Yn 2019 ymunodd Aberteifi, tref fechan yng Ngorllewin Cymru â theulu Other Voices, gan uno Aberteifi a Dingle, dwy gymuned Geltaidd sy’n byw, gweithio a chwarae ar arfordiroedd gwyllt gorllewinol eu priod wledydd. Yn 2021, cynhaliwyd fersiwn digidol o Leisiau Eraill Aberteifi ar Lwyfan y BBC fel rhan o Gŵyl 2021.
Mae Bandiau Arddwrn yn galluogi aelodau’r gynulleidfa i gael mynediad i’r Ŵyl dros dridiau, gan gynnwys y Llwybr Cerdd, digwyddiadau Clebran a chael eu cynnwys yn y raffl i ennill tocynnau mynediad aur y mae galw mawr amdanynt i’r perfformiadau byw yn Eglwys y Santes Fair, ynghyd â gwobrau eraill. Mae bandiau arddwrn yn £25.
Tocynnau: https://www.othervoices.ie/events/other-voices-cardigan