Cafodd Hannah Newell ei magu ym Malawi lle bu’n byw am 12 mlynedd. Bellach yn byw yng Nghaerdydd, mae Hannah wedi creu dros 350 o ddarluniau, ar ffurfiau digidol ac acrylig. Mae ei darluniau wedi eu hysbrydoli gan dirweddau Affricanaidd, machlud haul ac anifeiliaid. Mae hefyd yn llysieuwraig ac mae ganddi ddiddordeb gwirioneddol yn rhedeg 5k ac yn nofio yn y môr. Ei hoff lyfr yw Nervous Conditions gan Tsitsi Dangarembga. Mae’n edrych ymlaen at ddechrau ei phrosiect newydd gyda ni! Bydd yn archwilio dawns draddodiad o Affrica a Chymru.