Cartref digidol diwylliant Cymru.

Y Defodau gan Rebecca Roberts

Llenyddiaeth

Gwawr Efa Taylor, Gweinydd
Defodau Enwi, Priodasau ac Angladdau digrefydd
Cymraeg / Saesneg / Dwyieithog

Ceisiais gysgu, ond yn ofer. Gorweddwn yn effro drwy oriau mân y bore yn gwrando ar guriad fy nghalon ac yn meddwl am Claire Price. Roedd y llun ohoni, a’r tebygrwydd rhyngom ni, wedi fy nychryn. Dyna’r peth anoddaf am weithio yn y diwydiant angladdau – mae’n anodd iawn anghofio y bydd dy galon dithau un diwrnod yn rhoi’r gorau i guro. Mae dy gorff cyfan yn troi’n memento mori, ac un o’r pethau gwaethaf am y gwaith yw na elli di gael hoe fach i gael dod at dy goed unwaith eto.

Diffyg sicrwydd sy’n gwneud gwaith hunangyflogedig yn anodd. Rhaid gweithio yn ôl amserlenni pobl eraill, ac os fentri di wrthod y gwaith sy’n cael ei gynnig, yna bydd trefnwyr priodasau ac ymgymerwyr yn troi at rywun arall a ddôn nhw ddim yn ôl eto. I mi, mae’r gwaith ar ei anoddaf ar ôl y Nadolig, gan fod llai o bobl yn priodi a mwy o bobl yn marw yn oerni’r gaeaf. Mae calendr gweinydd yn dueddol o ddilyn y tymhorau, felly, gyda’r gwaith tywyllaf yn ystod y gaeaf, a’r gwanwyn yn dod â bywyd a goleuni newydd. Trueni bod y gwanwyn yn dal i fod dipyn o bellter i ffwrdd.

Petawn i’n gweini ym mhriodas unrhyw un heblaw Maxine a Darren byddai’r syniad o wisgo ffrog liwgar, treulio’r bore yng nghwmni cannoedd o bobl hapus, a chael ynganu’r geiriau hudol, ‘mi gewch chi gusanu’r briodferch’ yn ddigon i drechu fy iselder. Fel arfer, rydw i wrth fy modd yn cynnal priodasau. Rydw i’n drefnydd trylwyr, ac erbyn bore’r briodas ei hun does dim ‘gwaith’ i’w wneud heblaw gwisgo’n ddestlus, cyrraedd y lleoliad yn brydlon, cynnal y seremoni ac yna mwynhau llawenydd y diwrnod. Ond y bore hwnnw, wrth i mi wisgo fy ffrog orau a gwirio trefniadau seremoni Maxine a Darren am yr ugeinfed tro, roedd fy mherfedd yn corddi. 

Nawr, dydw i ddim yn hoff o’r gair bridezilla, nac ychwaith o’r tueddiad i godi cywilydd diangen sy’n rhy gyffredin ar cyfryngau cymdeithasol. Fyddwn i byth, byth yn meddwl cwyno am fy nghleientiaid yn gyhoeddus; ond roedd Maxine yn haeddu’r teitl bridezilla.

Ar gael nawr o’ch siop lyfrau leol.

RHANNWCH