Cartref digidol diwylliant Cymru.

Cyfarwyddwr ffilm pwysicaf 2017?

FfilmLlenyddiaeth

Emyr Glyn Williams sy’n trafod gwaith Rainer Werner Fassbinder.

#ArchifPedwarGwynt #DarllenAmDdim

“Dw i ddim yn ddyn sy’n lluchio bomiau, dw i’n ddyn sy’n creu ffilmiau.”

 chlasuron fel Fear Eats The Soul, Katzelmacher, The Bitter Tears of Petra von Kant a The Marriage of Maria Braun yn fwy perthnasol nag erioed, credaf fod yna le i ddadlau mai gwaith cyfarwyddwr a fu farw dros 30 mlynedd yn ôl sy’n cynnig y cyfle sinematig gorau i ddeall, dygymod â a dadansoddi chwalfa’r byd ôl-Brexit, ac i ystyried hiliaeth, rhagfarn a phwysau annioddefol systemau cyfalafiaeth fyd-eang.

Rainer Werner Fassbinder, yn fy marn i, yw cyfarwyddwr ffilm mwyaf diddorol yr oes fodern. Mae o’n esiampl hanfodol i unrhyw un sy’n ysu i greu ffilmiau, ac sy’n ymddiddori yn y posibiliadau sydd ynghlwm â chreu ffilmiau annibynnol. Mae o hefyd yn ymgorffori syniad clasurol yr auteur – yr awdur ffilm, sydd yn syniad a damcaniaeth a fu’n rhan allweddol o hanes y sinema Ewropeaidd ers y 1950au. Y ‘director as superstar’, fel petai, yw hwn!

Roedd darganfod gwaith Fassbinder yn brofiad corfforol i mi, fel cwympo mewn cariad. Roedd prydferthwch y lluniau, ynghyd â’r ddealltwriaeth glir a’r agwedd herfeiddiol a gonest at eu cynnwys, yn fodd i fy llorio’n llwyr.

Darllenwch yn llawn, am ddim, ar wefan pedwargwynt.cymru.

RHANNWCH