Cartref digidol diwylliant Cymru.

Llên plant a dychymyg y Gymraeg

Llenyddiaeth

Ar drothwy cyhoeddi enillwyr Gwobrau Tir na n-Og 2022 (Cyngor Llyfrau Cymru), cyfle i fyfyrio ar ddarn o #ArchifPedwarGwynt gan Siwan M Rosser yn trafod gwerth llenyddol llyfrau plant.

Llun oddi ar glawr cyfrol ddiweddaraf Siwan M Rosser, ‘Darllen y Dychymyg’ (Gwasg Prifysgol Cymru, 2020).

‘Chewch chi mo’ch cymryd o ddifri fel llenor yn sgwennu i blant!’ meddai rhywun wrth awdur plant ar faes yr Eisteddfod yn ôl stori a glywais yn ddiweddar. Ni wn beth oedd cyd-destun yr ebychiad gwreiddiol ond roedd ei ergyd ddirmygus yn eglur: efallai fod angen llyfrau plant ac awduron i’w sgrifennu, er mwyn yr iaith, er mwyn ein diwylliant, ond does yna ddim gwerth llenyddol i’r llyfrau, does bosib.

Nid yw hon yn farn a wyntyllir ar goedd yn aml y dyddiau hyn, ond y mae ei holion ymhlyg yn y ffordd yr ydym yn ymdrin â llyfrau plant: wrth sôn am nofelau i blant fel prentiswaith awdur yn hogi ei grefft, wrth beidio â rhoi gofod teilwng i adolygu llyfrau plant yn y wasg ac ar y cyfryngau, wrth fethu pennu meithrin darllen er pleser fel un o flaenoriaethau’r Fframwaith Llythrennedd Cenedlaethol. Mae yna weithgarwch mawr, ymroddiad llwyr a thalent sylweddol yn y byd llyfrau plant Cymraeg, ond mae’r nodweddion uchod yn arwydd o gymuned ehangach nad yw’n ystyried llenyddiaeth plant yn rhan o’i hetifeddiaeth lenyddol. Nid sefyllfa unigryw i Gymru mo hynny; mewn sgwrs ar lên plant yng Ngŵyl Llên Plant Caerdydd eleni, soniodd yr academydd Catherine Butler am y difaterwch sy’n llethu’r byd Saesneg, hyd yn oed. (Rhoddodd y Times Literary Supplement y gorau i gynnal adran benodol ar lyfrau plant yn y 1980au, er enghraifft.) Ond mae sefyllfa leiafrifol y Gymraeg yn cymhlethu ein perthynas â’n llenyddiaeth plant ac yn ei neilltuo mewn ffordd wahanol o brif ffrwd ein diwylliant.


Darllenwch yn llawn, am ddim, ar wefan pedwargwynt.cymru.

RHANNWCH