Mae Tafwyl yn falch iawn heddiw i gyhoeddi manylion Wythnos y Ffrinj Tafwyl fydd yn cychwyn ar 12 Mehefin 2022 mewn lleoliadau ar draws y brifddinas yn ystod yr wythnos – cyn Gŵyl Tafwyl ar benwythnos 18 ac 19 Mehefin 2022.
Bydd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal yn ystod yr wythnos i blant, teuluoedd, pobl ifanc, myfyrwyr a ffans selog Tafwyl.
Ymysg y digwyddiadau fydd Dragwyl, digwyddiad Tu ôl i’r Lens, Amser Stori i blant, digwyddiadau lu gan gynnwys am ffasiwn, cerddoriaeth a pherfformio ym Mhrifysgol De Cymru, taith gerdded o amgylch y ddinas, gigs Twrw yn Clwb Ifor Bach, digwyddiad Hyder corff a Hunan gariad gyda Jess Davies a Mari Gwenllian, Sgwad Sgwennu gyda Casi Wyn – a mwy! Mae’r lleoliadau ar gyfer yr wythnos yn cynnwys Yr Atrium (Prifysgol De Cymru), Clwb Ifor Bach, Stiwdio S, Siop Cant a Mil, The Other Room (Porters).
Meddai Caryl McQuilling, Trefnydd Tafwyl:
“Ni wrth ein bodd i gyhoeddi’r amserlen yma heddiw sy’n cynnwys llu o ddigwyddiadau amrywiol fydd yn ddechrau gwych i ddathliadau Tafwyl yn y brifddinas. Mae’n wych gallu mynd â Tafwyl i lefydd gwahanol ar draws Caerdydd – a gweithio gyda phobl amrywiol.
Bydd nifer o uchafbwyntiau yn ystod yr wythnos gan gynnwys cynnal y noson Drag Cymraeg cyntaf ar y nos Iau, y noson Hunan Hyder yn Stiwdio S, Amser Stori sydd bob tro mor boblogaidd, a’r digwyddiadau Bwrlwm i blant 7 oed a hŷn. Ni’n falch bod y digwyddiadau yn agored i bawb – croeso mawr i ddysgwyr Cymraeg i ddod i gael blas ar ddiwylliant Cymraeg ac i rai sydd yn newydd i’r diwylliant – dewch i ymuno â ni!”
Ceir manylion yr wythnos ar wefan Tafwyl, gyda manylion pob lleoliad a manylion cofrestru neu tocynnau.
Mae partneriaid ar gyfer Wythnos Ffrinj Tafwyl yn cynnwys:
Prifysgol De Cymru, Clwb Ifor Bach, Cwlwm Cyhoeddwyr Cymru, Llenyddiaeth Cymru, Cwmni Theatr Protest Fudr, Cymdeithas Carnhuanawc, Equinox Communications, Cwmni Theatr Arad Goch