UNTRO

Cerddoriaeth

Cyhoeddi system i gefnogi artistiaid Cymraeg newydd.

Mae PYST yn falch o gyhoeddi system newydd fydd yn cefnogi artistiaid newydd i ryddhau eu senglau cyntaf a chreu chyfleon i hyrwyddo y senglau hynny.

Gan greu partneriaeth rhwng PYST, Cymru Greadigol, BBC Radio Cymru, Lŵp/S4C a Klust, bwriad UNTRO yw cynrychioli, cydlynu a hyrwyddo traciau gan artistiaid newydd o Gymru gan roi iddynt y profiad o ddysgu am y broses o ryddhau a hyrwyddo caneuon. Does dim dwywaith bod y camau cyntaf yma yn allweddol i unrhyw artist ac wrth gyfuno adnoddau a phrofiad y partneriaid, y nod yw arfogi artistiaid i gamu ymlaen ar eu siwrne tra hefyd fod yn gymorth i labeli Cymru weithio gyda’r artistiaid ar eu cynlluniau nesaf. Bydd y cynllun hefyd yn anelu at greu tirlun cerddorol mwy cynhwysol a hygyrch lle bydd cyfleoedd i ymwneud â’r byd cerddoriaeth Gymraeg yn agored, haws a chyfartal.

Yn gweithio mewn partneriaeth gyda Cymru Greadigol, BBC Radio Cymru, Lŵp a Klust, bydd UNTRO yn rhyddhau senglau cyntaf artistiaid newydd, gyda’r ymgyrchoedd hyrwyddo a dosbarthu i’w cydlynu gan PYST. Bydd pob artist yn rhyddhau sengl ddigidol yn ogystal ag elwa o sesiwn mentora gan gynhyrchwyr Radio Cymru, cyfweliad estynedig ar wefan gerddoriaeth Klust, lluniau proffesiynol yn ogystal â chreu fideo gyda chefnogaeth Cronfa Fideos PYST x Lŵp. Bydd yr holl recordiadau, adnoddau a fideos yn eiddo i’r artist a/neu unrhyw label i’w ddefnyddio fel y dymunent yn y dyfodol. Gyda mwy o bartneriaid i’w cyhoeddi dros y misoedd nesaf – gan gynnwys partneriaid o’r sector byw – bydd UNTRO yn sicrhau cyfleoedd ac agor drysau newydd i artistiaid newydd o Gymru.

Pleser hefyd yw cyhoeddi mai Cyn Cwsg fydd yn lansio’r system, gyda’u sengl gyntaf i’w rhyddhau ar 8fed Mawrth 2024. Bydd manylion llawn am sengl ddwbl cyntaf Cyn Cwsg yn cael ei gyhoeddi yn fuan.

Dywed Gerwyn Evans, Dirprwy Gyfarwyddwr, Cymru Greadigol: “Mae’r fenter newydd hon yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth ar draws y diwydiant. Gyda gwybodaeth ac arbenigedd rhanddeiliaid allweddol, mae PYST wedi datblygu offeryn sy’n darparu cefnogaeth ymarferol a mynediad at arweiniad arbenigol sydd angen ar artistiaid ar draws pob genre i’w helpu nhw i lwyddo. Mae tyfu a meithrin artistiaid, lleoliadau a busnesau yng Nghymru yn flaenoriaeth allweddol i Cymru Greadigol; felly mae’n wych gweld y gefnogaeth ariannol a ddarparwn i PYST yn elwa ar brosiect newydd, arloesol a fydd yn darparu sgiliau hanfodol a drysau agored i dalent gerddoriaeth newydd o Gymru, o bob cefndir.”

Ychwanegodd Alun Llwyd, Prif Weithredwr PYST: “Mae creu’r system yma gyda phartneriaid a chefnogaeth labeli yn mynd i weld cynnydd yn niferoedd artistiaid newydd Cymraeg yn ogystal â sicrhau eu bod yn derbyn profiadau ac adnoddau gwerthfawr ar gychwyn eu siwrne. Bydd yn hwb pellach a chefnogaeth allweddol i’r genhedlaeth nesaf o gerddorion Cymraeg ac i waith labeli yng Nghymru.”

Meddai Gethin Griffths o BBC Radio Cymru: “Rydym ni wastad yn falch o gefnogi artistiaid newydd yma yn Radio Cymru. Mae pob artist wedi bod yn newydd ar un adeg, ac mae ein rhaglenni cerddorol nosweithiol, yn ogystal â rhai o’n rhaglenni dyddiol hefyd, wedi rhoi llwyfan i’r artistiaid hyn gael meithrin eu crefft. Pleser o’r mwyaf yw cael datblygu hyn ymhellach mewn partneriaeth gyda PYST, a chael gweithio tuag at ddiwydiant cerddorol llewyrchus yng Nghymru sy’n gweithio i’r enwau newydd yn ogystal â’r hen ffefrynnau.”

Soniodd Owain Williams o wefan Klust: “Mae UNTRO yn ddatblygiad cyffrous i’r sin gerddoriaeth yma yng Nghymru a dwi’n edrych ymlaen at fod yn rhan o’r cwbl a chefnogi camau cyntaf artistiaid newydd dros y misoedd nesaf. Bwriad Klust ydi hyrwyddo artistiaid newydd o Gymru, boed hynny drwy’r wefan, y cylchgrawn neu’r gigs, ac felly mae partneru gyda UNTRO yn teimlo fel rhywbeth naturiol iawn i wneud.”

RHANNWCH