Pennod 61 – Taliesin yng Ngwlad Angau: Gweledigaethau’r Bardd Cwsg (rhan 2)

Llenyddiaeth

Edrychwn yn y bennod hon ar y modd y mae Ellis Wynne yn trafod y traddodiad barddol Cymraeg yn Gweledigaethau’r Bardd Cwsg. Mae gan enw prif gymeriad y gwaith wreiddiau llenyddol hynafol, a gwelwn fod agweddau eraill ar y llyfr rhyfeddol hwn sy’n dychanu’r hen draddodiad hwnnw. Pam bod Ellis Wynne yn cysylltu barddoniaeth Gymraeg â phechod? A sut mae’n gwneud hynny? A pham poeni cymaint am yr canu mawl, a’r traddodiad hwnnw’n gwegian os nad yn prysur chwalu ar y pryd? Ystyriwn hefyd ymdrech Ellis Wynne i ladd arch-fardd bytholwyrdd y traddodiad, Taliesin, ac awgrymu mai Taliesin sy’n chwerthin yn olaf er gwaethaf hyn oll.

RHANNWCH