Cyhoeddwyd pedwaredd nofel yr awdures o Faldwyn, Myfanwy Alexander, fis Ionawr. Nofel dditectif ydyw, fel ei gwaith blaenorol, yn dilyn helyntion yr Arolygydd Daf Dafis ym mwynder Maldwyn.
Yn y nofel hon, mae ffrwydrad ar reilffordd fechan Llanfair Caereinion, ac mae’n rhaid i Daf ymchwilio i’r honiadau fod terfysgwyr ISIL wedi targedu’r ardal. All yr amseru ddim bod yn waeth – mae teulu Daf yn brysur gyda pharatoadau munud olaf Rali’r Ffermwyr Ifanc sydd i’w chynnsal ar fferm gyfagos, ac mae Chrissie Berllan, sy ddim yn cuddio’r ffaith ei bod â’i bryd ar fynd â Daf i’r gwely, eisiau ffafr fawr ganddo …
Yn anffodus, canslwyd lansiad y nofel hon oherwydd stormydd drwg Chwefror, ac unwaith eto ar ddechrau’r pandemig Covid 19. Dyma hi’r awdur, felly, yn cael ei holi gan Ann Lowther o Fenter Maldwyn, am y nofel.