Mae prosiect Forté yn fodel datblygu talent arloesol sy’n helpu i lunio’r don nesaf o weithwyr proffesiynol cerddoriaeth yng Nghymru drwy gynnig mentora, dosbarthiadau meistr, hyfforddiant a llwyth o gyfleoedd amrywiol eraill er mwyn hybu cerddoriaeth a cherddorion o Gymru.
Mae eu roster yn restr hir o artistiaid sydd wedi mynd ymlaen i gyflawni pethau gwych, gan gynnwys dau o enillwyr diweddar Gwobrau Triskel, Aderyn a Minas; y rocwyr o Canton, CVC, sydd ar fin mynd ar daith a’u halbwm diweddaraf ar daith ledled y DU; a’r triawd o’r cymoedd, Chroma, a fydd yn hedfan i SXSW yn Texas ym mis Mawrth.
Wythnosau ar ôl cyhoeddi eu 10 artist ar gyfer 2022-23, ymgasglodd staff, ffrindiau a chyn-artistiaid Forté yn Porter’s, Caerdydd, ar y 30ain o Ionawr i ddathlu 8 mlynedd o’r prosiect AC i glywed y cyhoeddiad y byddant yn lansio eu label recordio eu hunain.
“Rydym wrth ein bodd yn gweithio ochr yn ochr â PYST i greu Forté Records” meddai Alexandra Jones o Forté, “Mae’n teimlo fel cam naturiol a fydd yn rhoi bywyd newydd i’r prosiect. Nod Forté Records yw cefnogi artistiaid yn y Diwydiant Cerddoriaeth Gymreig trwy leihau’r rhwystrau sy’n ymwneud â rhyddhau cerddoriaeth.”
Nid yn unig y bydd label newydd Forté yn rhoi llwyfan i 10 artist 2022-23 i rhyddhau eu prosiectau cerddorol i’r byd, ond bydd hefyd yn anelu at ryddhau prosiectau gan gyn-artistiaid Forté ac artistiaid eraill yng Nghymru hefyd, oll gyda’r nod o ddyrchafu artistiaid o Gymru i uchderau newydd.
Mae PYST yn gyffrous iawn i fod yn gweithio ochr yn ochr â Forté i ddosbarthu cerddoriaeth y fenter newydd gyffrous hon. Cadwch eich llygaid ar gyfryngau cymdeithasol PYST a Forté Project am gyhoeddiadau’r dyfodol.