Mae WAHWN yn ymrwymo i adolygu ein darpariaeth ac effeithiolrwydd Cymraeg yn barhaus yng nghyd-destun ein cynlluniau a’n polisïau sy’n datblygu.
Rydym ni’n ymwybodol fod y rhan fwyaf o’r ddarpariaeth i artistiaid ar hyn o bryd yn Saesneg, yn sgil y ffaith fod ein sail o aelodau llawrydd creadigol yn bennaf yn cynrychioli ymarferwyr Saesneg eu hiaith.
Rydym ni am gael gwell cynrychiolaeth i artistiaid Cymraeg yn y cyfarfodydd rhwydwaith a digwyddiadau hyfforddi.
Ar ôl cael nifer o sgyrsiau gydag Einir Siôn, Ysgogwr y Gymraeg gyda Chyngor Celfyddydau Cymru a Nia Wyn Skyrme, Ymarferydd a Chynhyrchydd Celfyddydau ac Iechyd, rydym ni am gynnig man penodol i ymarferwyr Cymraeg eu hiaith ym maes y Celfyddydau, Iechyd a Llesiant gyfarfod yr hydref hwn i drafod ac ystyried sut y gall WAHWN leihau’r rhwystrau at ymgysylltu a chynyddu ein darpariaeth Gymraeg.
Bydd y Cyfarfod Rhwydwaith yn dilyn y strwythur arferol:
Cyflwyniad gan Tracy Breathnach, Rheolwr Rhaglenni, WAHWN
Grwpiau Trafod ar gyfer sgwrsio a rhwydweithio
Myfyrdod grŵp cyfan
Mae’r Cyfarfodydd Rhwydwaith am ddim i aelodau WAHWN – cofrestrwch yma i ymuno â’r rhwydwaith.