Mae Moss Carpet yn brosiect o Gaernarfon, sydd yn arbrofi gyda gwahanol genres ac mae’n hoff o “arbrofi gyda gwahanol dechnegau a gweld sut mae’n mynd! Y canlyniad yw cymysgedd o weadau sonig…” Mae wedi bod yn creu cerddoriaeth am bum mlynedd, “ar ben fy hun yn fy ystafell wely, doeddwn i byth yn meddwl bysa pobl yn gwrando a mwynhau [fy ngherddoriaeth].”
Mae Alis Glyn yn artist ifanc o Gaernarfon sydd wedi bod yn rhan o brosiect Merched yn Gwneud Miwsig, ac mae “wrth ei bodd bod hi wedi cyrraedd y rownd derfynol. Dwi’n edrych ymlaen yn arw at berfformio ar Lwyfan y Maes ar bnawn dydd Mercher yn y ‘Steddfod a gwrando ar y tri artist arall”. Mae’n hoff iawn o gerddoriaeth artistiaid fel – Mared, Lizzie McAlpine, Gwilym a The Beatles.
Dyma’r ail flwyddyn i Francis Rees o Dywyn, gyrraedd y pedwar olaf, yng nghystadleuaeth Brwydr y Bandiau, ac yn un arall o griw gweithdai Merched yn Gwneud Miwsig ac mae’n disgrifio’r gymuned mae’r prosiect yma wedi’i greu fel “un sy’n tyfu, ac yn gymuned sydd yn helpu ei gilydd.” Mae’n disgrifio ei cherddoriaeth fel “dream pop, ond dwi’n cael lot o ysbrydoliaeth gan gerddoriaeth Ewropeaidd ar ôl Eurovision eleni!”
Mae Tew Tew Tennau yn fand ifanc o Ddinbych a dywed Eban Elwy Williams, prif leisydd y band mae “Brwydr y bandiau oedd y nod ers i ni ddechrau, ‘da ni’n teimlo’n lwcus iawn i gael y platfform yma i rannu ein cerddoriaeth â chynulleidfa yn y brifwyl.” Maent yn gwrando ar lwyth o wahanol gerddoriaeth fel band, ond mae eu prif ddylanwadau yn dod o gerddoriaeth roc, rap a reggae.