The digital home of Welsh culture.

Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig

Literature

Man cychwyn y llyfr hwn oedd cyfweliad ar gyfer swydd darlithydd Athroniaeth gyda’r Coleg Cymraeg, dros wyth mlynedd yn ôl. Gwyddwn ddigon bryd hynny i sylweddoli y byddai yna bosibiliadau difyr wrth ymgymryd ag athroniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg, yn ogystal a gwneud hynny o safbwynt trwyadl Cymreig. Yn wir, fel rhan o’m cyfweliad, bu trafod ar fodiwl posib a fyddai’n edrych ar unigolion o bwys yng nghyd-destun hanes Cymru, ac i wneud hynny o safbwynt syniadaeth.  Dyma a fyddai’n sylfaen maes o law ar gyfer fy llyfr cyntaf gyda’r wasg, sef  Credoau’r Cymry.  Trwy’r broses o addysgu’r modiwl, ac yna ysgrifennu’r llyfr, mi ddes i sylweddoli arwyddocâd a phosibiliadau ehangach yr orchwyl.   

Awgrymodd Credoau’r Cymry amlinelliad o hanes deallusol cydlynnol, a dyna’r wyf yn ei ddatblygu yn y llyfr newydd – o’r oes cyn-Rufeinig a oedd yn gefnlen i oes Pelagus (un o’r ddau ‘Morgan’ yn yr hanes) hyd at heddiw. Wrth fynd ati i ysgrifennu, sylweddolais na fu hanes deallusol o’r fath erioed yn rhan sylweddol o’r traddodiad Cymreig mewn ffordd drwyadl ac hunan-ymwybodol, er gwaethaf ein hunan-ymwybyddiaeth fel cenedl ar wahân, gyda phrif-ffrwd diwylliannol radical a blaengar.  

Mae hyn yn agor hyn cil y drws ar gwestiynau dyrys ac anodd sydd, o anghenraid, yn amlygu agweddau ar ein gwendidau hanesyddol. Symptom yw hyn, yn fy marn i, nid yn unig o ddiffyg statws i ffurfiau Cymreig o feddylu ac athronyddu (y byddai rhai’n cwestiynnu a ydynt yn gymwys ar gyfer athroniaeth), ond hefyd o’r diffyg ehangach o gadarnle ym myd addysg uwch i astudio’r byd yn ei amryw ffurfiau o safbwynt Cymreig a Chymraeg. Gwn fod cyfeirio at gyflwr ôl-drefedigaethol Cymru yn creu tipyn o anniddigrwydd ymhlith rhai ond, ar wastadedd deallusol, anodd ydyw imi beidio â bwrw golwg ar gyflwr ein prifysgolion a theimlo fod yno un lens sy’n un addas i’w defnyddio.  

A dyma gysylltu gyda’r themâu nad oeddent gymaint ar flaen fy meddyliau wrth ymhel â’r ymchwil yn y cyfnod cynnar – ond sydd erbyn hyn yn anhepgorol o ran argyfwng cyfalafiaeth ddiweddar a Covid.  Mae’r apêl i adfer y meddwl Cymreig yn alwad i gydnabod datgymalu cynyddol ein cymunedau, ein hiaith a’n ffordd o fyw, ac i ddwysystyried y ffordd ymlaen yng ngoleuni’r tuedd hwnnw. Heb annibyniaeth barn, heb yr ewyllys i brofi ein personoliaeth hanesyddol, diwylliannol a ieithyddol unigryw, ac heb sylweddoliad fod angen troi cefn ar gyfalafiaeth i wireddu Cymru ystyrlon, yna bydd hi’n amhosib gwarchod ein hetifeddiaeth a’n hysbryd yn wyneb yr heriau lu nad oes modd gochel rhagddynt bellach.   

Ysbryd Morgan: Adferiad y Meddwl Cymreig gan Huw L Williams yw Llyfr y Mis.

Darllenwch adolygiad o’r gyfrol  YMA. 

Gall siopau llyfrau Cymru gynnig argymhellion darllen, trefn clic-a-chasglu a dosbarthu drwy’r post yn ystod y cyfnod clo. 

Dewch o hyd i’ch siop lyfrau leol YMA.

SHARE