Portread o Carys Huws
Mae’r ffotograffydd Carys Huws wedi teithio’r byd gyda’i gwaith ac yn byw yn ninas Berlin ar hyn o bryd – ond yn dal i hiraethu am Gymru bob hyn a hyn.
Rhwng 2016 a 2019 bu’n rhan o brosiect Red Bull Music Academy yn teithio o gwmpas y byd yn gweithio gyda cherddorion byd enwog gan gynnwys Bjork, Iggy Pop a Thundercat.
A chyn hynny bu’n byw yn Llundain am bedair blynedd yn gweithio i lu o gylchgronau ffasiwn, celf a cherddoriaeth adnabyddus megis Dazed, AnOther Magazine, The Spaces, The Vinyl Factory, a FACT Magazine.
Mi symudodd i’r Almaen ar ddechrau 2017 oherwydd ei gwaith, ac ers 2019 mae wedi bod yn gweithio fel ffotograffydd a gwneuthurwr ffilmiau llawrydd yn ninas Berlin.
Yn ystod ei chyfnod gyda’r Red Bull Music Academy wnaeth hi ymweld â llu o ddinasoedd ledled y byd gan gynnwys Efrog Newydd, Dubai, Vienna, Detroit, Los Angeles, a Zurich.
Ac fel rhan o’r prosiect roedd hi’n cynnal gweithdai, yn tynnu lluniau yn ystod cyngherddau mawr, ac yn gohebu ar ddarlithoedd gan sêr y byd cerddoriaeth.
“Yn edrych yn ôl, honna yw’r swydd orau dw i wedi ei chael,” meddai. “Dw i’n meddwl ei fod e’n eitha’ rare cael swydd fel’na.
“Mae cymaint o drafaelu ac roedd e’n gymaint o hwyl. Roedd e jest yn combination o lot o bethau exciting.”
Un o’r uchafbwyntiau, meddai, oedd tynnu lluniau o Solange Knowles – cerddor hynod adnabyddus sy’n chwaer fach i Beyoncé – yn Amgueddfa’r Guggenheim yn Efrog Newydd.
Trwy lwc llwyr mi gafodd gyfle unigryw i siarad â hi.
“Ges i brofiad eitha’ doniol,” meddai Carys Huws. “Es i mewn i’r lifft yn y Guggenheim i fynd lan i’r llawr top ac roedd [Solange] yn y lifft yn barod. So o’n i basically jest yn siarad gyda hi yn y lifft ar ben fy hun.
“Roedd e’n anodd gwybod beth i’w ddweud wrthi hi! Ond wnes i basically dweud wrthi hi bo fi’n really gwerthfawrogi hi a’i gwaith.”