The digital home of Welsh culture.

Van Hamel yn Eryri: Disgybl a’i athro

No Categories Found

O Westy Gwydyr ym Metws-y-coed yr anfonodd Anton Gerard van Hamel ei lythyr cyntaf at ysgolfeistr Rhyd-ddu. Mis Awst 1907 oedd hi, ac roedd y myfyriwr un-ar-hugain oed wedi dod i Gymru i geisio dysgu ychydig o Gymraeg. ‘I have heard your name mentioned as an experienced teacher of the Welsh language,’ ysgrifennodd at Henry Parry-Williams, gan fynd yn ei flaen i ofyn a gâi ddod ato i Ryd-ddu am wythnos neu ddeng niwrnod i gael ei roi ar ben y ffordd. ‘I would be most pleased by a favourable answer,’ pwysleisiodd. ‘My knowledge of Welsh is only very poor and I would be very glad indeed if you were so kind [sic] to promise your help.’[1]

Ganed A G van Hamel (1886-1945) yn ninas Hilversum yng ngogledd yr Iseldiroedd, yn fab i deulu dosbarth canol ac yn nai i A G van Hamel yr hynaf, diwinydd, awdur ac ysgolhaig Ffrangeg adnabyddus.[2] Roedd Anton yr ieuengaf ar ganol dilyn cwrs gradd mewn iaith a llên Iseldireg ym Mhrifysgol Amsterdam ac wedi dechrau ymddiddori yn hanes yr ieithoedd Celtaidd. Roedd ganddo beth Gwyddeleg modern eisoes, ac felly penderfynodd neilltuo haf 1907 i ddysgu’r Gymraeg gyfoes – a hynny trwy anturio i gefn gwlad Eryri lle’r oedd athro tan gamp yn byw. ‘I [should] be pleased to know where I could live during those days,’ holodd yn ei gerdyn post, ‘whether it could be with you, or in the inn or in another place’ (A28)

Er mawr foddhad iddo, cafodd ateb cadarnhaol gan Henry Parry-Williams (tad y llenor, T H Parry-Williams), ac o fewn dyddiau roedd Van Hamel wedi cyrraedd Rhyd-ddu ac wedi ymgartrefu yng nghwmni teulu Tŷ’r Ysgol yn y pentref bychan wrth droed yr Wyddfa. Gwnaeth y profiad hwn argraff fythgofiadwy arno, a thros y blynyddoedd dilynol dychwelodd sawl gwaith i Ryd-ddu, nid yn unig er mwyn ymarfer ei Gymraeg, ond am ei fod hefyd wedi ymserchu yn y dirwedd ddramatig, yn y gymuned leol, ac yn bennaf oll, yn ei athro galluog a’i deulu. Cedwir dros ugain o lythyrau a chardiau post difyr a dadlennol gan Van Hamel yn archif Syr T H Parry-Williams a’r Fonesig Amy Parry-Williams yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru hyd heddiw, ac mae’n dra arwyddocaol, o safbwynt enw da Henry fel athro, mai dim ond un ohonynt, sef y llythyr cyntaf hwnnw o Fetws-y-coed, a luniwyd yn y Saesneg. Mae’r gweddill, gan gynnwys un a anfonwyd rai dyddiau’n unig wedi ei ymweliad cyntaf â Rhyd-ddu, wedi eu hysgrifennu mewn Cymraeg ardderchog, yn dyst i feistrolaeth chwim Van Hamel ar yr iaith ac i hyfforddiant ysbrydoledig ei athro. Er mai unochrog yw’r ohebiaeth (gwaetha’r modd, aeth llythyrau Henry Parry-Williams at Van Hamel ar ddifancoll), mae darllen y corff hwn o lythyrau’n brofiad eithaf rhyfeddol. Yn un peth, mae’n brawf o gyfeillgarwch cryf a hirhoedlog a bontiodd Gymru a’r Iseldiroedd am ddegawdau, gan oroesi holl gythrwfl y Rhyfel Byd Cyntaf a’r chwalfa a ddaeth yn ei sgil. Mae’r ohebiaeth hefyd yn ddiddorol am fod Van Hamel ei hun yn llythyrwr cynnes, ac am fod ei ddefnydd o’r Gymraeg yn rhugl a gogleisiol, a’i sylwadau ar y broses o ddysgu’r iaith yn werthfawr.

Darllenwch yr erthygl yn llawn ar wefan O’r Pedwar Gwynt

SHARE